Myfyrwyr Israddedig

Mae Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth yn ddisgyblaeth gynyddol berthnasol a dylanwadol. Mae ein rhaglen Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth yn mabwysiadu ymagwedd arbennig o gymhwysol at baratoi myfyrwyr i gynnal dadansoddiad iaith mewn cyd-destunau beirniadol amrywiol gan gynnwys cyfathrebu gofal iechyd, deallusrwydd rhwng pobl a pheiriannau, diwygio addysgol, llunio polisïau sy’n gysylltiedig ag iaith, dadansoddi fforensig, diagnosio a rheoli anhwylderau cyfathrebu, cyfathrebu drwy’r cyfryngau cymdeithasol, a chymunedau amlieithog.

Mae ein myfyrwyr yn craffu ar strwythurau a synau Saesneg, yn archwilio’r prosesau mewnol sy’n sail i gynhyrchu a deall iaith, ac yn ymchwilio i achosion ac effeithiau dewis iaith. Mae’r rhaglen yn cynnwys hyfforddiant a phrofiad o weithio gydag ymarferwyr a phartneriaid yn y diwydiant, ac mae myfyrwyr yn cael y cyfle i ddewis cyd-destun penodol ar gyfer astudio a dadansoddi manwl. Mae iaith yn ffenomen gymhleth; drwy gymhwyso dulliau ystadegol, cyfrifiadurol a gwyddonol wrth ei hastudio, mae myfyrwyr yn dysgu sut i holi samplau iaith a’r defnydd ohoni er mwyn echdynnu gwybodaeth sy’n hanfodol wrth ddeall a mynd i’r afael â heriau’r byd go iawn.

Beth mae ein myfyrwyr yn ei wneud?

Beth yw ein safle ni fel adran?🏆

Ieithyddiaeth yn Abertawe:

  • Ymysg y 7 adran orau yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2024)
  • Un o’r 10 orau yn y DU (Guardian University Guide 2023)
  • Ymysg y 5 orau yn y DU o ran Rhagolygon Gyrfa (Guardian University Guide 2023)
  • Ymysg y 10 orau yn y DU (Times Good University Guide, 2023)
  • Ymysg y 5 orau yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2023)
  • Ymysg y 5 orau yn y DU am Ansawdd Addysgu (Times Good University Guide 2023)
  • 🏆Ar y brig yn y DU am Gyfleoedd Dysgu (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2023)
  • Yn 2il yn y DU am Gymorth gan Academyddion (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2023)
  • Yn y 4ydd safle yn y DU am Lais y Myfyrwyr (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2023)
  • Yn y 4ydd safle yn y DU am Addysgu (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2023)

Iaith Saesneg yn Abertawe:

  • 🏆Ar y brig yn y DU am Lais y Myfyrwyr (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2023)
  • Yn y 5ed safle yn y DU am Addysgu (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2023)
  • Yn yr 11eg safle yn y DU am Effaith Ymchwil (REF 2021)
  • Ymysg y 101-150 orau yn y byd (Tabl Prifysgolion y Byd QS 2023) 

Am wybod mwy?

Rhagor o fanylion am y cwrs yma