Modiwlau MA

Mae dwy ran i’r MA. Y rhan gyntaf yw’r rhan a ‘addysgir’ rhwng mis Hydref a mis Mehefin. Rhennir rhan 1 yn Floc Addysgu 1 o fis Hydref tan fis Ionawr a Bloc Addysgu 2 o fis Chwefror i fis Mehefin. Yn ystod rhan 2 byddwch yn cwblhau naill ai traethawd estynedig neu bortffolio’n annibynnol ar fyfyrdodau addysgegol, gwersi ac ymchwil ystafell ddosbarth.


Rhan 1 (y rhan a addysgir o’r MA Medi i Fehefin)

Bloc Addysgu 1

ALEM18: Geirfa: Dysgu ac Addysgu

Yn y modiwl hwn, byddwn yn archwilio natur geirfa a’r anawsterau sy’n gysylltiedig â diffinio a chategoreiddio’r “Gair”. Byddwn yn archwilio ac yn nodi cydrannau gair, ac yn edrych ar y ffyrdd y mae talpiau mwy o iaith neu grwpiau o eiriau – weithiau’n ymddwyn fel eitemau geirfa unigol. Byddwn yn dadansoddi beth yw ystyr dealltwriaeth o eiriau a’r agweddau amrywiol ar hyn ac, yng ngoleuni hyn, a yw’n realistig mesur faint o eiriau y mae person yn eu gwybod. Byddwn yn edrych ar fodelau geirfa L2 ac yn defnyddio hyn fel sail i ymchwilio i sut rydym yn addysgu sut i ddarllen, ysgrifennu, siarad a gwrando ar eirfaoedd iaith dramor.

ALEM22: Y Dull Cyfathrebol o Addysgu Iaith

Mae’r modiwl yn cynnwys egwyddorion sylfaenol, athroniaeth a datblygiad hanesyddol dysgu a damcaniaeth dysgu iaith gan arwain at yr ymagwedd gyfathrebol at addysgu iaith. Mae’n ymdrin â’r drafodaeth bresennol am ddulliau a methodolegau yng nghyd-destun Saesneg fel iaith ryngwladol.

ALEM36: Dadansoddi Gramadeg

Mae’r modiwl hwn yn rhoi trosolwg disgrifiadol o ramadeg Saesneg. Mae’n archwilio strwythurau gramadegol Saesneg a’r patrymau iaith pennaf a ddefnyddir o safbwynt gramadegol, gan gymryd safbwynt disgrifiadol o ran cywair. Er nad yw’r modiwl yn arolwg o ddamcaniaethau gramadegol nac yn gwrs mewn dulliau Saesneg fel Ail Iaith ar gyfer addysgu gramadeg, bydd yn cynnig cyfleoedd i drafod goblygiadau addysgu yn yr ystafell ddosbarth, yn enwedig wrth edrych ar ddisgwrs/gywair nodweddion gramadegol.

Bydd myfyrwyr sy’n astudio’r modiwl hwn yn datblygu’r gallu i gynnal dadansoddiad gramadegol o frawddegau a geir yn naturiol o destunau llafar ac ysgrifenedig. Dim ond un ffordd y gellir datblygu’r gallu hwn: drwy ymarfer cyson. Felly bydd disgwyl i fyfyrwyr gwblhau’r holl ddarllen a’r gwaith cartref yn rheolaidd. Bydd paratoi anghyson ar gyfer y dosbarth a phresenoldeb gwael yn annhebygol o arwain at berfformiad boddhaol.



Bloc Addysgu 2

ALEM19: Dulliau Ymchwil

Mae’r modiwl hwn yn addysgu myfyrwyr am y dulliau ymchwil perthnasol er mwyn cynnal eu hastudiaeth empirig eu hunain ar gyfer y traethawd estynedig. Mae’r pynciau yn cynnwys:

  • Moeseg ymchwil a’r ddamcaniaeth sy’n sail i ymchwil mewn cyd-destunau Addysgu Iaith Saesneg
  • Cynlluniau ymchwil mewn Addysgu Iaith Saesneg
  • Casglu a dadansoddi data
  • Dadansoddi data meintiol ac ansoddol
  • Creu prosiect ymarferol cyfyngedig mewn Addysgu Iaith Saesneg, a allai fod yn ddarn unigol neu gellir ei ddatblygu ymhellach ar gyfer y traethawd estynedig

ALEM20: Caffael Ail Iaith

Sut rydych chi’n dysgu ail iaith? Pa brosesau a ddefnyddir? Beth yw rôl yr iaith gyntaf? Yn y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn trafod y cwestiynau hyn ymysg pethau eraill. Bydd myfyrwyr yn gwerthuso’n feirniadol ddamcaniaethau gwahanol caffael ail iaith gan gynnwys pa wybodaeth sydd gennym ar ddechrau’r broses gaffael a sut rydym yn datblygu. Bydd myfyrwyr hefyd yn archwilio ffactorau gwahanol a allai ddylanwadu ar ba mor llwyddiannus yw dysgwr iaith, gan gynnwys ysgogiad a gallu etc. Byddwn yn darllen astudiaethau empirig sydd wedi archwilio astudiaethau gwahanol a byddwn yn gwerthuso’n feirniadol eu canlyniadau. Bydd dulliau asesu gwahanol yn gofyn i fyfyrwyr werthuso papurau ymchwil yn feirniadol, dadansoddi data dysgwyr ail iaith a defnyddio hyn i gefnogi eu dadleuon.

ALEM21: Dadansoddi Disgwrs ar gyfer Addysgu Iaith

Mae’r cwrs hwn yn cyflwyno myfyrwyr i ddadansoddi disgwrs, maes rhyngddisgyblaethol, amlddisgyblaethol a mwyfwy poblogaidd o astudiaethau iaith. Gellir dadlau bod dadansoddi disgwrs, sef astudio iaith yn ei chyd-destun a rhyngwynebau iaith, diwylliant a chymdeithas, yn ddisgyblaeth hanfodol ar gyfer darpar athrawon iaith. Yn unol â hynny, bydd y cwrs hwn yn rhoi trosolwg o ymagweddau allweddol at ddadansoddi disgwrs â pherthnasedd uniongyrchol i addysgu iaith, gan gynnwys dadansoddi sgwrs destun, damcaniaeth gwrteisi, damcaniaeth gweithred siarad, (trawsddiwylliannol), pragmateg, cymdeithaseg ieithyddol ryngweithiol, ieithyddiaeth swyddogaethol systemig, dadansoddi cywair a dadansoddi genre.   Mae’n rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad ymarferol o roi’r ymagweddau hyn ar waith wrth ddadansoddi disgwrs, ac mae’n tynnu sylw myfyrwyr yn systematig at oblygiadau a chymwysiadau yr ymagweddau hyn ar gyfer addysgu iaith a chreu deunyddiau.


Rhan 2 (ymchwil annibynnol, Mehefin-Medi:ALEM15 NEU ALED00)

ALEM15: Traethawd Estynedig

Rhaid i fyfyrwyr gynllunio a chyflawni prosiect ymchwil empirig estynedig ac ysgrifennu’r canfyddiadau. Disgwylir i fyfyrwyr ddatblygu gwybodaeth am ymchwil empirig mewn ieithyddiaeth gymhwysol a geir yn y modiwl dulliau ymchwil (ALEM19: Dulliau Ymchwil mewn ELT). Yn benodol, disgwylir i fyfyrwyr gynllunio a chynnal prosiect ymchwil empirig ar bwnc sy’n berthnasol i ddysgu ac addysgu iaith Saesneg a dilyn ymagweddau a dulliau sefydledig mewn ieithyddiaeth gymhwysol. Yna byddan nhw’n ysgrifennu adroddiad ar y prosiect gan ddilyn strwythur adroddiadau ymchwil empirig a chonfensiynau ysgrifennu academaidd sefydledig.

ALED00: Portffolio Ymarfer Proffesiynol Myfyriol

Bydd myfyrwyr yn creu portffolio sy’n dangos gallu i ymchwilio a sgiliau ymarferol wrth addysgu iaith. Rhaid i ymgeiswyr gymhwyso agweddau damcaniaethol ar addysgu iaith Saesneg i ymarfer ystafell ddosbarth yn ystod y modiwl hwn