Wyddech chi fod myfyrwyr sy’n astudio graddau BA gyda ni yn gallu treulio blwyddyn neu semester dramor?
Gair gan un o’n myfyrwyr – Abbie Campfield (2023)

Helô!Fy enw i ydy Abbie Campfield, rwy’n astudio Iaith Saesneg a TESOL ym Mhrifysgol Abertawe a chefais y cyfle i astudio yn ne Korea eleni! Hyd yn hyn mae fy mlwyddyn wedi bod yn llawn digwyddiadau cyffrous a hoffwn rannu fy mhrofiad o astudio dramor.
Yn gyntaf oll, o ganlyniad i’r flwyddyn dramor hon, rydw i wedi gallu archwilio rhannau gwahanol o dde Korea, gan gynnwys Pohang, Daegu a lleoedd eraill. Rydw i wedi cael cyfleoedd i ymweld ag amryw demlau ac atyniadau a chael fy amgylchynu gan y diwylliant. Mae de Korea yn wlad hardd iawn. Roedd y bobl y gwnes i gwrdd â nhw yn Korea, boed yn ffrindiau neu’n ddieithriaid, yn groesawgar ac yn gymwynasgar iawn wrthyf. Er bod gennyf ddealltwriaeth gyfyngedig iawn o’u hiaith, Korëeg, roedd hi’n amlwg bod y bobl roeddwn i’n siarad â nhw yn hapus iawn fy mod i hyd yn oed yn rhoi cynnig ar siarad â nhw yn eu hiaith nhw. Dyma un o’r rhesymau pam rwy’n annog unrhyw un a hoffai fynd i Korea ar raglen gyfnewid i ddysgu ychydig o iaith y wlad – bydd rhywfaint o ddealltwriaeth o’r iaith yn eich helpu i amsugno’r diwylliant ac ymgolli yn y wlad.
[Darllenwch ragor am brofiad Abbie yma!]
Gair gan un o’n myfyrwyr – Betsy McMahon (2021)
Gwrandewch ar Betsy wrth iddi siarad am ei blwyddyn dramor!
Opsiynau Semester Dramor
Gall myfyrwyr dreulio ail semester yr ail flwyddyn mewn prifysgol arall. Yn ystod eich amser dramor, byddwch yn astudio yn y brifysgol o’ch dewis ac yn dethol modiwlau o restr gymeradwy gan y bydd y marciau hyn yn cyfrif tuag at eich canlyniad gradd terfynol. Mae rhai o’r gwledydd a’r prifysgolion y gallwch fynd iddynt yn cynnwys:
- System Talaith Califfornia – UDA
- Prifysgol Oklahoma– UDA
- Prifysgol Brock– Canada
- Prifysgol Bedyddwyr Hong Kong – Hong Kong
- Prifysgol Mannheim– Yr Almaen
- Université de Lille
- Université Rennes 2
- Rheinische Friedrich-Wilhelms- Universität Bonn
- Rijksuniversiteit Groningen *
* Mae rhagor o ymgeiswyr yn cystadlu am Groningen gan ei bod yn bartneriaeth sy’n cynnig sawl pwnc yn y dyniaethau
Partneriaid Cyfnewid Cyffredinol
Partneriaid cyfnewid cyffredinol yw’r rhai hynny nad ydynt yn gyfyngedig i Ysgolion neu Adrannau penodol.
Mae ein Sefydliadau Partner Cyffredinol yn cynnwys prifysgolion yn y gwledydd canlynol: Awstralia, Canada, Hong Kong, Singapore, De Korea ac UDA ac mae ein myfyrwyr wedi astudio yn rhai o’r sefydliadau hyn yn y gorffennol. Gallwch weld y rhestr bresennol o gyrchfannau sydd ar gael yma.
Sylwer:
Nid yw cofrestru ar raglen â semester/blwyddyn dramor yn gwarantu eich lleoliad dramor am semester/flwyddyn. Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael a chânt eu cynnig drwy broses ddethol gystadleuol. Mae’n bosib na fydd rhai partneriaethau’n addas ar gyfer rhai meysydd pwnc a gall argaeledd amrywio o flwyddyn i flwyddyn.
Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael a chânt eu cynnig drwy broses ddethol gystadleuol. Mae’n bosib na fydd rhai partneriaethau’n addas ar gyfer rhai meysydd pwnc a gall argaeledd amrywio o flwyddyn i flwyddyn, sy’n golygu nad oes gwarant y cewch chi le yn y sefydliad o’ch dewis. Gwiriwch gyda’ch adran am yr wybodaeth ddiweddaraf.