Amdanom Ni

Departmental Logo

Ynglŷn â’r rhaglen

Croeso i Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth Gymhwysol ym Mhrifysgol Abertawe. Dyma ein safle blogio, a byddwn yn ei ddiweddaru gyda newyddion a digwyddiadau. Dilynwch @Swansea_AppLing ar Instagram am ddiweddariadau!! Gallwch hefyd ddilyn ein LINKTREE i weld y cynnwys i gyd.

Yn ein hadran, rydym yn cynnig gradd BA (Anrh) Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth a BA (Anrh) mewn Iaith Saesneg a Llenyddiaeth Saesneg ar lefel israddedig. Ar lefel ôl-raddedig, rydym yn cynnig gradd MA TESOL (Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill). Rydym hefyd yn cynnig gradd MA drwy Ymchwil, MPhil a PhD.

Mae ein graddau’n edrych ar ffyrdd o ddadansoddi gwybodaeth iaith, defnydd iaith ar draws cyd-destunau ac amser ac mae’r elfen TESOL yn ein graddau’n cysylltu’r syniadau hyn ag addysgu Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill.

Mae gwefan Prifysgol Abertawe ar gael yma.

Beth yw ieithyddiaeth a beth yw ieithyddiaeth gymhwysol?

Ieithyddiaeth yw’r astudiaeth wyddonol o sut mae iaith ddynol yn cael ei defnyddio mewn amrywiaeth o gyd-destunau gwahanol. Mae’n ymwneud â:

  • sut mae iaith yn datblygu dros amser;
  • sut rydym yn caffael ein hiaith gyntaf a’n hieithoedd ddilynol;
  • sut mae’r ymennydd yn gweithredu mewn cyd-destunau dwyieithog;
  • sut rydym yn cynhyrchu ac yn deall iaith mewn amser go iawn;
  • sut mae’r system iaith sylfaenol yn gweithio ar gyfer seiniau a gramadeg.

Mae ein cyrsiau yn cysylltu â materion y byd go iawn sy’n cael effeithiau allweddol ar unigolion a chymunedau. Dyma’r rhan ‘gymhwysol’ o’r hyn a wnawn yn ein disgyblaeth a byddwch chi’n ei phrofi drwy un o’n graddau. Mae rhai enghreifftiau o ran ‘gymhwysol’ ein cyrsiau yn cynnwys dysgu am y dulliau gorau ar gyfer addysgu iaith i ddysgwyr newydd; heriau seicolegol dysgu ieithoedd newydd; archwilio disgyrsiau perswâd mewn cymdeithas, gofal iechyd a’r cyfryngau; ac agweddau cymdeithasegol hunaniaeth ieithyddol rhywun mewn bywyd beunyddiol.

Yn y modiwlau TESOL, rydym hefyd yn edrych ar yr heriau sydd ynghlwm wrth ddysgu ac addysgu Saesneg fel iaith newydd, gan gynnwys sut caiff dulliau gwahanol eu defnyddio  i addysgu iaith; sut mae plant yn dysgu iaith ychwanegol; sut mae damcaniaethau am gaffael ail iaith yn gysylltiedig ag addysgu; a sut mae ymchwil gyfredol i Addysgu Iaith Saesneg yn llywio ymarfer.

Ein rhaglenni gradd israddedig

Mae ein rhaglenni gradd yn ystyried ffyrdd o ddadansoddi gwybodaeth am iaith a defnydd iaith ar draws cyd-destunau ac amser. Mae’r graddau’n gyrsiau tair blynedd, ac mae’r rhain ar gael gyda semester dramor. Gallwch hefyd ddilyn gradd pedair blynedd, os ydych chi am dreulio blwyddyn dramor neu wneud blwyddyn mewn diwydiant.

Cymhwyster CELTA fel rhan o’ch gradd

Mae gan fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar ein gradd BA gyfle i ennill cymhwyster addysgu proffesiynol a gydnabyddir yn rhyngwladol – y CELTA

Rhaglenni Ôl-raddedig

Mae gennym raglen Meistr a addysgir mewn TESOL/TEFL a sawl gradd ymchwil gan gynnwys gradd MA drwy Ymchwil, MPhil a PhD.

Gradd MA TESOL

Mae’r radd MA TESOL yn rhaglen blwyddyn o hyd ar sail amser llawn neu dair blynedd ar sail ran-amser. Caiff ei haddysgu ar y campws a’i nod yw rhoi dealltwriaeth drylwyr i ddarpar athrawon Saesneg fel iaith dramor/ail iaith o theorïau, tueddiadau cyfredol, ac ymchwil ieithyddiaeth gymhwysol arloesol sy’n berthnasol i addysgu ieithoedd. Mae’r rhaglen hefyd yn ceisio ysgogi myfyrwyr i fyfyrio ar eu harferion addysgu eu hunain.

Mae manylion llawn a ffurflenni cais ar gyfer y radd MA ar gael ar brif wefan y brifysgol.

Ar y tudalennau blog hyn gallwch ddysgu mwy am ein modiwlau MA a darllen beth mae rhai o’n graddedigion diweddar wedi’i wneud ar ôl gorffen eu cyrsiau MA.

PhD/MA drwy Ymchwil ac MPhil

Mae PhD, MA drwy Ymchwil, neu MPhil mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect sylweddol wedi’i arwain gan eich diddordebau eich hun, dan oruchwyliaeth arbenigwr yn y maes. Mae’r radd PhD yn cymryd tair blynedd i’w chwblhau’n amser llawn neu chwe blynedd yn rhan-amser, ac mae’r radd MPhil yn cymryd dwy flynedd i’w chwblhau’n amser llawn neu bedair blynedd yn rhan-amser.

Ar gyfer graddau PhD, byddech fel arfer yn cyflwyno traethawd hir hyd at 90,000 o eiriau i’w asesu (hyd at 30,000 o eiriau ar gyfer yr MA drwy Ymchwil, ac ar gyfer yr asesiad MPhil y cyfrif geiriau yw 60,000 o eiriau). Dylai pob un o’r rhain ddangos ymchwil wreiddiol a chyfraniad sylweddol at y maes pwnc. Yna dilynir y cyflwyniad gan arholiad llafar o’r traethawd ymchwil.

Staff

Mae gan faes Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth Gymhwysol yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu broffil ymchwil cryf mewn nifer o feysydd arbenigol. Mae’r rhain yn cynnwys astudiaethau geirfa, caffael ail iaith, dadansoddi disgwrs, ieithyddiaeth corpws, pragmateg, addysgeg iaith ac astudio tafodieithoedd. Mae’r rhain yn cael eu hadlewyrchu yn y pynciau rydym yn eu goruchwylio ac yn llawer o’r modiwlau a gynigir ar ein cynlluniau gradd.

Yn ddiweddar, rydym wedi buddsoddi mewn labordy ymchwil ieithyddiaeth gymhwysol, gan gynnwys meddalwedd dilyn symudiad y llygaid ac amser ymateb. Caiff myfyrwyr gyfle i ddefnyddio’r cyfleusterau hyn wrth lunio eu traethodau hir, gan ddibynnu ar y pwnc a ddewisir.

Mae ein staff yn aelodau o’r Ganolfan Ymchwil Ieithoedd (LRC) , canolfan fyd-eang ar gyfer ymchwil empirig unigol, rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol i ddata a phrosesau iaith. Mae’n dod ag academyddion ac ymchwilwyr ôl-raddedig o Brifysgol Abertawe ynghyd, gan gysylltu eu gweithgareddau â rhai rhwydwaith byd-eang y Ganolfan o aelodau cysylltiol a myfyrwyr doethurol sy’n dysgu o bell. Mae’r Ganolfan Ymchwil Ieithoedd (LRC) yn cynnal cyfres o Seminarau Ymchwil pwrpasol yn semestrau’r hydref a’r gwanwyn gyda siaradwyr yn cyflwyno o bob cwr o’r byd.

Mae ein tudalen staff ar y blog i’w gweld yma.

Aerial image of swansea university

Parc Singleton, cartref y tîm Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth Gymhwysol