Fel sy’n wir yn aml wrth gynnal ymchwil, nid oedd darganfod pwpilometreg yn ganlyniad cynllun bwriadol, ond yn hytrach roedd y darganfyddiad yn ddamwain ffodus. Yn 2024, pan oeddwn yn gwneud fy ngradd meistr mewn Dulliau Ymchwil Cymdeithasol, mynychais gynhadledd EuroSLA – yr European Second Language Acquisition Researchers’ Conference – a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Montpellier. Yno, ochr yn ochr â’m goruchwyliwr PhD arfaethedig, Dr Vivienne Rogers, gwrandawais i ar amrywiaeth eang o gyflwyniadau a oedd yn canolbwyntio ar gaffael ail iaith.
Nid EuroSLA oedd fy mhrofiad cyntaf o fod mewn cynhadledd academaidd. Yn gynharach yn ystod y flwyddyn honno, roeddwn wedi helpu i gynnal yr ‘International Symposium on Bilingual and L2 Processing in Adults and Children’ (ISBAC) pan gafodd ei gynnal yn Abertawe. Er hynny, yn EuroSLA y dechreuais i werthfawrogi pwysigrwydd digwyddiadau o’r fath. Sylweddolais i fod cynadleddau’n cynnig llawer mwy na sgyrsiau ffurfiol yn unig: maen nhw’n darparu lleoedd ar gyfer archwiliad deallusol, ysbrydoliaeth annisgwyl, a sgyrsiau anffurfiol sydd yn aml yr un mor ddylanwadol â’r sgyrsiau a drefnwyd.
Yn ystod un cyflwyniad o’r fath – gan Dr Dieter Thomas a Miss Stefanie Radetzky – dysgais i am bwpilometreg am y tro cyntaf. Ar y pryd, roedd y dull yn hollol newydd i mi. Ar ôl y cyflwyniad, roeddwn i’n chwilfrydig iawn ac roedd fy niddordeb wedi’i danio, a meddyliais am gwestiwn a fyddai’n ymddangos yn fy PhD: beth gall pwpilometreg ei ddatgelu am sut mae dysgwyr yn prosesu iaith ac yn ymateb iddi?

Beth yw ‘Pwpilometreg’?
Cyn i mi fynd ymhellach, efallai y bydd yn ddefnyddiol i mi roi esboniad cryno o beth yw pwpilometreg. Pwpilometreg yw mesur maint cannwyll y llygad a’i hadweithedd, a gofnodir fel arfer gan ddefnyddio offer olrhain y llygaid. Er efallai y bydd yn ymddangos yn annisgwyl i ddechrau, mae canhwyllau ein llygaid yn gwneud mwy nag ymateb i newidiadau yn y golau yn unig – maen nhw hefyd yn ymledu ac yn culhau mewn ymateb i ysgogiadau emosiynol a gwybyddol. Mae hyn yn eu gwneud nhw’n ddangosyddion ffisiolegol cynnil o brosesau mewnol ond gallant ddatgelu pethau fel ymdrech, sylw a chynyrfiad meddyliol. Yng nghyd-destun caffael ail iaith, mae pwpilometreg yn cynnig llwybr addawol ar gyfer archwilio sut mae dysgwyr ieithoedd yn prosesu cynnwys emosiynol, gan gynnig gwybodaeth sydd yn aml yn anhygyrch drwy fesuriadau ymddygiadol yn unig.
Yn dilyn y cyflwyniad, roedd fy chwilfrydedd am y posibiliadau y gallai’r dull hwn eu cynnig yn cynyddu. Dechreuais ofyn i fi fy hun a ellir defnyddio pwpilometreg y tu hwnt i’w gyd-destun gwreiddiol, yn benodol mewn ymchwil i agweddau tuag at iaith a gwerthusiad ymhlyg. Dros amser, datblygodd y chwilfrydedd hwn yn drywydd ymholi yn fy ymchwil ddoethurol.
Y Cyfle i Hyfforddi yn Mannheim
Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, wrth drafod fy syniadau cynnar gyda Dr Rogers, awgrymodd hi fy mod i’n cysylltu â Dr Thoma i archwilio’r dull yn fanylach. Anfonais e-bost ato, ac roeddwn wrth fy modd pan dderbyniais ateb cyfeillgar ganddo. Ar ôl gohebiaeth fer – a chyda chymorth Dr Thoma a Stefanie – cefais fy ngwahodd i Brifysgol Mannheim. Yno, derbyniais i hyfforddiant ymarferol ym maes pwpilometreg a chefais y cyfle i gyflwyno fy ymchwil yn eu colocwiwm adrannol.
Roedd yr ymweliad hwn yn drobwynt. Gwnaeth yr hyfforddiant a dderbyniais – a oedd yn dechnegol ac yn gysyniadol – ddyfnhau fy nealltwriaeth o ddulliau pwpilometreg a’m helpu i feddwl yn fwy beirniadol am sut y gallwn i eu haddasu ar gyfer fy nghwestiynau ymchwil fy hun. Wrth gyflwyno fy syniadau i gynulleidfa academaidd newydd, cefais i’r cyfle hefyd i egluro fy syniadau a gosod fy ngwaith mewn cymuned ymchwil ehangach.

Roedd y math hwn o gyfle – yn enwedig ar adeg mor gynnar yn ystod PhD – dim ond yn bosibl oherwydd cefnogaeth y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Roeddwn i’n ffodus i fedru defnyddio’r gronfa deithio a oedd ynghlwm â’m hysgoloriaeth ymchwil, a dalodd am y costau teithio a’r costau llety. Dydw i ddim yn cymryd mynediad at y math hwn o gyllid yn ganiataol. Fe wnaeth fy ngalluogi i ddilyn trywydd ymchwil a fyddai, fel arall wedi aros yn ddamcaniaethol yn unig, yn ogystal â datblygu cysylltiadau gwerthfawr sydd wedi llunio fy hyder a chyfeiriad fy ymchwil. Fe wnaeth hefyd fy atgoffa pa mor bwysig yw sicrhau bod ymchwilwyr gyrfa gynnar yn cael yr adnoddau i archwilio, arbrofi a chydweithio y tu hwnt i’w sefydliadau cartref.
Cyflwyno yn Mannheim
Wrth gwrs, roedd meddwl am gyflwyno fy ymchwil yng ngholocwiwm adrannol Mannheim yn deimlad brawychus. Fel rhywun sydd dal yng nghyfnod cynnar ei daith ddoethurol, roedd meddwl am rannu syniadau a oedd yn dal i ddatblygu â llond ystafell o academyddion profiadol yn frawychus. Ond unwaith i mi ddechrau siarad, roeddwn i’n mwynhau’r her. Siaradais am darddiad pwnc fy ymchwil : adfywiad iaith yng Nghymru, yn benodol ymhlith pobl ifanc. Mae fy niddordeb yn y maes hwn wedi cael ei lunio gan brofiad yn ogystal â chwilfrydedd academaidd. Cyn dechrau fy astudiaethau ôl-raddedig, hyfforddais fel athro ysgol gynradd. Rhoddodd yr amser hwnnw yn y dosbarth gipolwg uniongyrchol i mi o sut mae plant yn profi’r iaith Gymraeg – nid yn unig sut maen nhw’n ei defnyddio, ond sut maen nhw’n teimlo amdani. Datblygais ddiddordeb mawr yn yr agweddau emosiynol, a chymdeithasol ar ddysgu iaith, yn ogystal â’r agweddau sy’n ymwneud â hunaniaeth, yn benodol mewn cyd-destun lle mae gan yr iaith arwyddocâd hanesyddol, diwylliannol a gwleidyddol.
Siaradais hefyd am yr ymchwil a gynhaliais fel rhan o fy ngradd meistr, a oedd yn archwilio dynameg dirywiad y Gymraeg ar ôl oedran ysgol ymhlith oedolion ifanc a dderbyniodd eu haddysg drwy gyfrwng y Saesneg. Wedi fy ysgogi gan fwlch yn y llenyddiaeth, defnyddiais ymagwedd dulliau cymysg gan gyfuno’r ‘Bilingual Language Profile’ (BLP), ‘Implicit Association Test’ (IAT) a chyfweliadau adalw ysgogol. Fe wnaeth hyn fy ngalluogi i archwilio agweddau echblyg ac ymhlyg tuag at y Gymraeg a’r Saesneg, yn ogystal â phrofiadau ieithyddol ehangach y cyfranogwyr. Er y gwnaeth data meintiol ddatgelu gwahaniaethau o ran goruchafiaeth iaith rhwng y rhai hynny a barhaodd i ddysgu’r Gymraeg ar ôl yr ysgol a’r rhai hynny a roddodd y gorau iddo, fe wnaeth y data hefyd ddangos bod ymagweddau ymhlyg yn parhau i fod yn eithaf sefydlog ar draws y ddau grŵp. Mewn cyferbyniad, amlygodd canfyddiadau ansoddol y ffactorau cymhleth sy’n dylanwadu ar ymddieithrio oddi wrth yr iaith Gymraeg, gan gynnwys ansicrwydd ieithyddol, afleoliad diwylliannol a’r diffyg canfyddedig o ran cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith. Tanlinellodd yr astudiaeth yr agweddau emosiynol a chymdeithasol ar ddirywiad iaith – agweddau y mae mesurau traddodiadol yn aml yn eu hanwybyddu – a gosododd y sylfaen ar gyfer fy niddordeb presennol ynghylch sut y gall ymatebion llai amlwg i iaith, megis ymdrech ddiarwybod neu gynhyrfiad emosiynol, gael eu cofnodi drwy ddulliau ffisiolegol megis pwpilometreg.
Roedd yr adborth a dderbyniais yn hael, yn adeiladol, ac yn procio’r meddwl, ac roedd yr awyrgylch yn yr ystafell yn llawn chwilfrydedd deallusol go iawn. Cynigodd nifer o’r cynadleddwyr safbwyntiau newydd, gan herio fy nhybiaethau mewn ffyrdd defnyddiol, ac fe wnaethon nhw rannu enghreifftiau o’u hymchwil eu hunain a oedd yn berthnasol ar gyfer fy ymchwil i. Wrth adael y sesiwn, roedd gennyf syniad cliriach o gyfeiriad fy ymchwil, ond roeddwn hefyd yn fwy ymwybodol o natur gydweithredol a rhyngwladol gwaith academaidd.

Archwilio Mannheim: Hufen Iâ a Phensaernïaeth
Y tu hwnt i’r rhaglen academaidd, gwnaeth fy nghyfnod yn Mannheim fy nghyfoethogi’n bersonol hefyd. Cefais y cyfle i archwilio rhai o dirnodau’r ddinas, gan gynnwys adeilad eiconig y Wasserturm ac adeilad crand Jesuitenkirche Basilica Carolina. Roedd tu mewn yr adeilad hwn, a’i addurniadau o gyfnod Baróc yn cynnig cyfle i fyfyrio’n dawel yng nghanol amserlen brysur. Rhoddais gynnig hefyd ar Spaghettieis am y tro cyntaf – pwdin sydd wedi cael ei wneud i edrych fel plât o sbageti, a dyma un o uchafbwyntiau’r daith. Fe wnaeth yr eiliadau hyn fy atgoffa pa mor werthfawr yw profi ardal y tu hwnt i furiau’r Brifysgol. Fe wnaeth y profiadau hyn sicrhau bod y daith yn un fythgofiadwy, gan wneud iddi deimlo’n fwy na gwaith yn unig – roedd yn brofiad bendigedig a ffurfiannol.

Dim ond yn ddiweddar y dychwelais o Mannheim, ond mae’r prosiect eisoes wedi dechrau llunio’r ffordd rydw i’n meddwl am fy mhrosiect. Er fy mod yn dal i fod yng nghamau cynnar y broses o fireinio cynllun fy astudiaeth, darparodd yr hyfforddiant sylfaen gref – yn ymarferol ac yn gysyniadol – ar gyfer y posibilrwydd o weithio gyda phwpilometreg. Nawr, mae gennyf syniad cliriach o sut mae’r dull yn gweithio’n ymarferol: sut i raddnodi’r offer olrhain llygaid, sut i strwythuro cyflwyniad ysgogiadau, a sut i ddechrau mynd ati i ddadansoddi data. Yn bwysicach oll, fe wnaeth y sgyrsiau a gefais yn ystod fy ymweliad fy helpu i feddwl yn feirniadol am y math o gwestiynau y gall pwpilometreg helpu i’w hateb – ac, yr un mor bwysig, y cwestiynau nad yw’n medru helpu i’w hateb.
Pwpilometreg ac Agweddau at Iaith: Ble Nesaf?
Wrth i mi ddechrau cynllunio sut y gall pwpilometreg gael ei ymgorffori yn fy ymchwil ddoethurol, mae gennyf ddiddordeb penodol mewn gweld sut y gellir ei defnyddio i archwilio ymatebion emosiynol ymhlyg i amrywiaethau iaith gwahanol. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar agweddau at iaith, ac rwy’n chwilfrydig ynghylch a allai ymlediad cannwyll y llygad gynnig cipolwg ar sut mae gwrandawyr yn ymateb i ieithoedd neu acenion y maen nhw wedi cael eu cymdeithasoli i’w hedmygu, eu hanwybyddu neu eu hofni. Mae’n ddyddiau cynnar ac mae nifer o heriau o fy mlaen, ond mae’r profiad yn Mannheim wedi sicrhau bod gennyf yr adnoddau a’r hyder i ddilyn y trywydd ymchwil hwn.
I ymchwilwyr gyrfa gynnar eraill, yn enwedig y rhai hynny sy’n dechrau eu PhD, mae fy nghyngor yn syml: dilynwch eich chwilfrydedd – ond gwnewch yn siŵr ei fod yn gysylltiedig â’ch problem ymchwil. Mae’n demtasiwn mynd ar ôl pob syniad cyffrous newydd, ond yr archwiliadau mwyaf gwobrwyol yw’r rhai hynny sy’n dyfnhau neu’n cyfoethogi eich cwestiynau canolog. Os ydych chi’n ddigon ffodus i gael mynediad at gronfeydd hyfforddiant neu oruchwylwyr cefnogol, ewch amdani: cysylltwch â phobl y mae eu gwaith nhw’n eich cyffroi chi, ewch i gynadleddau sy’n ehangu eich persbectif, a pheidiwch ag ofni archwilio dulliau anghyfarwydd. Mae’r ymdrechion hyn i ymestyn y tu hwnt i’ch cynllun gwreiddiol ar eu mwyaf gwerthfawr pan fyddant yn eich helpu i ystyried eich prosiect o safbwynt newydd neu’n rhoi’r adnoddau i chi fynd i’r afael â’ch prif broblem mewn ffordd wahanol. Dydych chi byth yn gwybod pa gyflwyniad, sgwrs, neu gyfle annisgwyl a allai ail-lunio cyfeiriad eich ymchwil.
Daniel Strogen