O’r MA TESOL i addysgu mewn ysgolion cynradd yn Hong Kong gan Naomi Davies

Naomi

Cwblheuais fy BA mewn Iaith Saesneg a Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe a mwynheuais i’r holl brofiad yn fawr, felly roedd parhau â fy astudiaethau yma yn ddewis amlwg. Derbyniais un o Ysgoloriaethau Canmlwyddiant Prifysgol Abertawe yn ddiolchgar, ac roeddwn i wedi dechrau meithrin cariad at addysgu yn sgîl y modiwlau TEFL yn fy ngradd israddedig, felly dewisais yr MA TESOL. Roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau dilyn y llwybr addysgu yn hytrach na’r llwybr yn seiliedig ar ymchwil, felly dewisais Lwybr yr MA drwy Bortffolio a oedd yn caniatáu imi ennill rhywfaint o brofiad ymarferol wrth addysgu.

Roedd modiwlau’r MA TESOL yn ddefnyddiol, yn ddiddorol, ac roeddyn nhw’n darparu llawer o gefndir damcaniaethol i’r addysgeg gyfredol. Roedd y modiwl ‘Dadansoddiad Gramadegol’ yn arbennig o ddefnyddiol wrth gyfnerthu fy ngwybodaeth ramadegol. Roedd yn fodiwl anodd sy’n gofyn am waith caled a dyfalbarhad, ond yn bendant mae’n werth yr ymdrech o ystyried pa mor hanfodol bwysig oedd y modiwl wrth wella fy ngwybodaeth ramadegol, ac mae hyn yn rhywbeth y bydda i bellach yn gallu elwa arno drwy gydol fy mywyd (er na fydd fy nheulu na fy ffrindiau bob amser yn gwerthfawrogi fy nghywiriadau o ran manwl-gywirdeb gramadegol).

Modiwl defnyddiol arall oedd ‘Ymarfer Addysgu Dosbarth’. Yn sgîl hyn, cefais fy mhrofiad go iawn cyntaf o addysgu. Hwyrach y bydd hyn yn ymddangos yn frawychus, ond cawson ni ein gosod mewn tîm addysgu bach sy’n cynnwys tri athro. Oherwydd hyn, roedd y gwersi yn fwy hylaw, a hefyd roedd angen sgiliau cyfathrebu sydd wrth reswm yn amhrisiadwy. Bob wythnos, roedd fy nhîm a minnau’n addysgu grŵp o fyfyrwyr o oedolion yr oedd angen arnyn nhw ddysgu Saesneg ar gyfer eu bywydau bob dydd a dod o hyd i swydd yn Abertawe. Bob yn ail wythnos bydden ni’n  newid rhwng dau ddosbarth, sef dosbarth Canolradd Is a dosbarth Canolradd Uwch. Byddai’n tiwtoriaid ni’n eistedd yng nghefn yr ystafell ddosbarth, gan arsylwi’n gwersi er mwyn estyn cymorth pan fyddai ei angen ac i gymryd nodiadau ynghylch yr hyn a oedd wedi gweithio a’r hyn y gellid ei wella mewn gwersi yn y dyfodol. Roedd hyn, ynghyd â chefnogaeth fy nghyd-ddisgyblion a fy nhîm addysgu, yn fodd imi deimlo’n fwy hyderus.

Roedd pob darlithydd ar yr MA TESOL yn gyfeillgar ac yn hawdd siarad ag ef, ac yn barod i roi cyngor ac arweiniad bob amser. Roedd Dr Barbieri yn arbennig o barod ei chymwynas, a gwnaeth hi fy annog i ddechrau meddwl am y cam nesaf yn fy mywyd yn gynnar yn y cwrs. Ar y dechrau, gwnaeth hyn fy llenwi â phryder a gofid, ond dilynais ei chyngor gan ddechrau ystyried fy opsiynau ar unwaith. Rwy’n credu bod y cyngor hwn wedi fy helpu i sicrhau fy swydd addysgu gyntaf. Dechreuais ymgeisio am swyddi addysgu mewn ysgolion iaith yn Hong Kong wrth imi gwblhau fy ngradd. Pan gefais i gynnig swydd, symudais i i Hong Kong a dechreuais i ar fy nhaith fel Athrawes ESL. Bues i’n addysgu Saesneg mewn ysgol iaith gan ganolbwyntio ar blant. Roedd mwyafrif y plant eisoes yn siarad Cantoneg a Mandarineg ac roeddyn nhw’n dysgu Saesneg yn drydedd iaith. Yn ystod y diwrnodau cyntaf yn fy rôl newydd roeddwn mewn pwll o nerfusrwydd. A fyddwn i’n athrawes dda? A fyddai’r plant yn fy hoffi? Nid oes angen imi boeni, a bod yn onest. Gyda chymorth y rheolwyr, a chyda fy ngwybodaeth gefndirol yn sgîl cwrs yr MA TESOL, roeddwn i’n gallu ymdopi’n iawn. Deuthum i wybod yn gyflym beth roedd yn gweddu orau imi fel athrawes ac euthum ati i feithrin amgylchedd addysgu gafaelgar a llawn hwyl yr oedd fy myfyrwyr yn ei fwynhau.

Sylweddolais i ar unwaith fy mod wedi dewis yr yrfa gywir imi. Dechreuais i gyda rhywfaint o hyfforddiant gan y rheolwyr ynghyd ag arsylwadau gan nifer o athrawon profiadol. Yna, treuliais i ychydig o ddiwrnodau’n addysgu gyda rheolwr yn yr ystafell ddosbarth gyda mi a oedd yn barod i roi cymorth imi. Roedd fy myfyrwyr yn amrywio o ran oedran rhwng tair a deuddeg oed, ac roedd pob un o’r myfyrwyr yn yr oedrannau hyn yn hyfrytwch pur i’w haddysgu. Dim ond pedwar myfyriwr oedd yn y dosbarthiadau, a chawsant eu grwpio yn ôl lefel eu Saesneg. Roedd hyn yn peri i’r gwaith o addysgu am y tro cyntaf fod yn bleserus iawn ac yn hawdd ei reoli. Syrthiais i mewn cariad â byd addysgu ac roeddwn i’n awyddus i ddysgu rhagor. Bues i’n mynychu gweithdai a chyfarfodydd staff i wella fy ngwybodaeth am feysydd penodol, megis ffoneg a gweithgareddau darllen. Deuthum i adnabod fy myfyrwyr yn gyflym a defnyddiais hyn i deilwra’r gweithgareddau er mwyn diwallu’u hanghenion nhw pan roedd hyn yn bosibl. Defnyddiais hyn hefyd i addurno fy ystafell ddosbarth gydag arddangosfeydd deniadol a phersonol ar gyfer y plant. Roedd yn ofynnol inni gynllunio ein gwersi mewn blociau o 12 wythnos. Nid oedd y cwricwlwm yn arbennig o gaeth, felly byddai’n rhaid inni gynllunio prosiect tair neu bedair wythnos, gwersi ffoneg, gwersi gramadeg, gwers goginio a gwibdaith. Roedd yr MA TESOL wedi rhoi gwybodaeth gadarn imi am ramadeg y Saesneg trwy’r modiwl Dadansoddiad Gramadegol, felly ni chefais broblemau wrth fynd i’r afael â dadansoddi strwythurau gramadegol at ddibenion y plant.

Yn ystod fy amser yn Hong Kong, dyluniais i fy neunyddiau addysgu fy hun hefyd. Roedd portffolio MA TESOL a’r modiwl ‘Dysgwyr Iaith Ifanc’ eisoes wedi rhoi sawl cipolwg gwych imi ar sut i addasu a datblygu deunyddiau addysgu. Roedd y modiwl ‘Dysgwyr Iaith Ifanc’ yn ei gwneud hi’n ofynnol imi werthuso llyfrau cwrs EFL ac roedd adran ‘Deunyddiau’ y portffolio yn ei gwneud hi’n ofynnol imi ddeall y broses o werthuso, addasu ac ychwanegu at ddeunyddiau yn ogystal ag ymchwilio i berthnasedd deunyddiau dilys. Diolch i’r wybodaeth a oedd gen i eisoes, roedd fy rheolwr yn yr ysgol yn fodlon imi greu deunyddiau newydd a gofynnodd imi ddylunio gwersi ar thema’r Pasg ar gyfer dwy lefel yn ogystal â chwrs haf. Mae’r ysgol yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau haf ar wahanol themâu neu sgiliau, er enghraifft, siarad, gramadeg, coginio. Fy nghyfarwyddiadau oedd dylunio cwrs coginio saith wythnos ar thema’r Gemau Olympaidd, ac roedd y cwrs hefyd yn targedu sgiliau Saesneg. Cwblheuais i’r cwrs cyn diwedd fy nghontract ac roedd y rheolwyr yn ddiolchgar am fy ngwaith ar y cwrs hwn. Yn ystod yr MA, roeddwn eisoes wedi dysgu am gynllunio gwersi, dylunio deunyddiau a dulliau addysgu, ond roedd fy swydd addysgu gyntaf yn fodd imi gorffori hyn oll yn rhan o fy addysgu gan fod gen i bellach ragor o brofiad ymarferol.

Yn anffodus, oherwydd pandemig Covid-19, roedd y cwmni wedi gofyn inni symud ar unwaith i wersi ar-lein. Roedd y cyfnod pontio hwn yn anodd gan fy mod yn sydyn heb ddeunyddiau na chynlluniau ar gyfer y gwersi. Fodd bynnag, sefydlodd athrawon yr ysgol grŵp Facebook inni rannu syniadau ac adnoddau defnyddiol, ac roedd hyn yn helpu i hwyluso’r broses o bontio i’r amgylchedd addysgu newydd hwn. Fodd bynnag, roeddwn i’n gweld eisiau’r agwedd ryngweithiol o fod yn yr ystafell ddosbarth. Addysgwyd y gwersi ar-lein ar sail un i un, ac oherwydd hyn roedd yn haws imi bersonoli’r cynnwys ond ar y llaw arall roedd yn golygu ei bod hi’n anos dod i gysylltiad â’r myfyrwyr. Ar ben hyn, roeddwn i hefyd yn addysgu myfyrwyr o ganolfan iaith arall. Pen draw hyn oedd diwrnodau hir iawn gan y byddwn i’n aml yn addysgu rhwng wyth a deg gwers y dydd. Er gwaethaf rhai heriau yn ystod y cyfnod pontio, o fewn ychydig o wythnosau, cefais i fy nhraed oddi tanaf ac roedd y gwersi bellach wedi gwella o dipyn i beth. Ar ôl cwblhau mwy na 200 o wersi ar-lein, rwy bellach yn hyderus yn fy ngallu i addysgu ar-lein a galla i werthfawrogi mai’r hyn sydd wedi digwydd yw fy mod wedi cael profiad ehangach o ddulliau addysgu gwahanol.

Ar y cyfan, yn sgîl yr MA TESOL roeddwn i’n barod iawn ar gyfer fy nhaith fel athrawes Saesneg. Byddwn i’n argymell y cwrs hwn yn fawr, yn ogystal â Phrifysgol Abertawe: drwy gydol y pedair blynedd yn Abertawe, roeddwn i’n teimlo imi gael fy nghefnogi a fy ysbrydoli. Oherwydd y darlithwyr cefnogol a’r modiwlau a oedd yn ysgogi fy meddwl, rwy’n teimlo na allwn i fod wedi dewis gwell llwybr i gychwyn fy ngyrfa fel athrawes. Gan fy mod i bellach wedi dychwelyd o Hong Kong, rwy wedi cael fy nerbyn ar gwrs TAR ym Mhrifysgol Sheffield Hallam. Mae’r MA TESOL a fy mhrofiad addysgu yn Hong Kong wedi fy mharatoi ar gyfer y bennod nesaf yn fy mywyd a fydd, gobeithio, yn fy arwain at fy swydd ddelfrydol fel athrawes ysgol gynradd.