Ein cyfres ar gyflogadwyedd: Dyma grynodeb o’r hyn a ddigwyddodd y semester diwethaf
Rwy’n siŵr bod llawer ohonoch yn ymwybodol o’r gyfres o sgyrsiau a gynhaliodd Dr Alexia Bowler, ein Swyddog Cyflogadwyedd ymroddedig iawn. Fodd bynnag, rhag ofn eich bod chi’n ystyried ymuno â Phrifysgol Abertawe’r flwyddyn nesaf ac rydych chi eisiau gwybod rhagor am y fenter hon, neu eich bod wedi colli golwg arni oherwydd y pandemig presennol, dyma grynodeb cyflym o sgyrsiau’r semester diwethaf a rhybudd ymlaen llaw o’r sgyrsiau sydd ar ddod!
5ed Tachwedd 2020: Cychwyn gyrfa ym maes Cyhoeddi
Ydy cyhoeddi’n gweddu ichi?
Uwch-olygydd yng ngwasg Palgrave yn yr adran Iaith ac Ieithyddiaeth yw Cathy Scott, a daeth i siarad â ni am ei phrofiad o gychwyn gyrfa ym maes cyhoeddi. Fel llawer ohonon ni, astudiodd Cathy Lenyddiaeth ac Iaith Saesneg ar gyfer ei gradd israddedig a phan benderfynodd hi ddilyn gyrfa ym maes cyhoeddi, cwblhaodd radd meistr mewn Cyhoeddi a gwnaeth rai interniaethau mewn cwmnïau cyhoeddi bach, gan gynorthwyo mewn adrannau gwahanol.
Diwrnod gwaith nodweddiadol Cathy
Mae’r cydbwysedd sydd gan Cathy o ran bywyd a gwaith yn eithaf da: bydd hi’n gweithio fel arfer rhwng 9 a 5, weithiau o’i chartref (hyd yn oed cyn y pandemig). Mae ei diwrnod nodweddiadol yn cynnwys edrych ar gynigion llyfrau, trefnu adolygiadau gan gymheiriaid, ysgrifennu e-byst ac ymateb iddyn nhw, cymryd rhan mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol yn ogystal â pharatoi ar gyfer cynadleddau. Bydd cynadleddau fel arfer yn cael eu cynnal rhwng mis Mawrth a mis Medi a bydd hyn yn cynnwys llawer o deithio yn ystod adegau arferol ac yn agwedd ar ei gwaith y mae Cathy yn ei disgrifio’n un o fanteision ei swydd, yn ogystal ag yn un o fanteision byd cyhoeddi academaidd yn gyffredinol.
Awgrymiadau a chyngor Cathy
Mae byd cyhoeddi yn faes cystadleuol iawn, ond nid yw’n amhosibl cael troed yn y drws. Dyma awgrymiadau a chyngor Cathy i wneud hyn yn bosibl.
Peidiwch â bod yn anodd eich plesio: hyd yn oed os mai ffuglen ar gyfer oedolion ifanc yw eich hoff genre, peidiwch â chanolbwyntio ar swyddi ym maes ffuglen oedolion ifanc yn unig, oherwydd bydd hyn yn cyfyngu ar eich opsiynau yn fawr. Ar ben hynny, gan siarad o brofiad, dywedodd Cathy wrthyn ni ei bod hi’n well cadw’r hyn rydych chi’n ei ddarllen er pleser ar wahân i’r hyn rydych chi’n ei ddarllen ar gyfer y gwaith.
Cadwch lygad ar y wasg olygyddol: mae gan wefannau megis The Bookseller a The Society of Young Publishers adrannau arbenigol sy’n hysbysebu swyddi ym maes cyhoeddi, ac mae ganddyn nhw erthyglau am y byd cyhoeddi.
Mynnwch feithrin profiad: mae interniaethau mewn cwmnïau cyhoeddi bach yn caniatáu ichi ddod i gysylltiad â’r gwahanol adrannau a rolau. Mae gwneud rhai swyddi ysgrifennu copi a golygu copïau yn ddefnyddiol hefyd, gan fod hyn yn datblygu’ch sgiliau ysgrifennu at ddibenion mwy masnachol.
18fed Tachwedd 2020: TESOL a Theithio’r Byd
Eich ffawd yw teithio’r byd? Beth am gyfuno gwaith a theithio?
Pennaeth Prifysgol SungKyunKwan yn ne Corea yw Justin Barrass lle bu’n byw ers 15 mlynedd. Cyn cyrraedd Prifysgol SungKyunKwan, roedd gan Justin fywyd eithaf diddorol. Cwblhaodd BSc mewn Mathemateg ym Mhrifysgol Bangor ac yna penderfynodd gymryd swydd addysgu Saesneg yn Ulsan yn ne Corea yn syth ar ôl graddio. Bu’n gweithio yno am flwyddyn yn addysgu plant ysgol ifanc a phlant rhwng 10 a 14 oed. Yna, symudodd yn ôl i’r DU lle y cwblhaodd gwrs CELTA (fel yr un y mae Prifysgol Abertawe yn ei gynnig), a thrwy hynny daeth yn athro ESL cymwys. Wedi hynny, bu Justin yn addysgu myfyrwyr o bob ystod oedran yn Nhwrci, y DU a de Corea. Un haf prynodd feic hyd yn oed, gan seiclo ledled Ewrop o Istanbul i Newcastle! Yn y pen draw, cafodd swydd yn addysgu ysgrifennu academaidd i fyfyrwyr sy’n mynychu Prifysgol SungKyunKwan ac yna, 5 mlynedd yn ôl, cafodd ei ddyrchafu’n Bennaeth ac mae wedi bod yn gyfrifol ama datblygu’r cwricwlwm ers hynny – bu’n gyfrifol hyd yn oed am greu rhaglen Saesneg at Ddibenion Gwyddonol o’i ben a’i bastwn ei hun!
Roedd sgwrs Justin yn llawn hwyl ac yn addysgiadol, yn enwedig os oes gennych chi ddiddordeb mewn addysgu dramor ar lefel academaidd. Yn bendant, roedd yn rhoi’r awydd imi ddal hediad a mynd i rywle egsotig i addysgu Saesneg, ac rwy’n siŵr nad fi oedd yr unig un!
2il Rhagfyr 2020: Gradd iaith fodern i gychwyn, yna ieithyddiaeth ac addysgu cyn mentro i faes profi iaith … taith annisgwyl!
Pwy sydd y tu ôl i’r holl brofion iaith rydyn ni’n eu gwneud mewn ysgolion?
Daeth Lillie Halton ac Emyr Davies o Gyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC) aton ni i siarad am weithio ym maes profi iaith, maes nad yw bob amser yn dod yn syth i’r meddwl pan fyddwn ni’n meddwl am radd Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth Gymhwysol. Cyrhaeddodd Lillie ac Emyr CBAC ar ôl cymryd dau lwybr gwahanol iawn. Roedd Lillie yn gyn-fyfyrwraig yma ym Mhrifysgol Abertawe ac yna gwnaeth hi MSc mewn Gwyddorau Lleferydd Fforensig ym Mhrifysgol Efrog. Bellach mae hi’n Swyddog Ymchwil yn CBAC: mae ei rôl yn cynnwys llawer o ystadegau wrth iddi brosesu data sy’n gysylltiedig ag asesiadau. Mae hi hefyd yn gweithio ar lawer o brosiectau sy’n ymwneud â darllenadwyedd ac anhawster asesiadau a bydd hi’n cyflwyno’r rhain yn aml mewn cynadleddau. Ar y llaw arall, bu Emyr yn athro Cymraeg ac yn Swyddog Arholi cyn ymuno â CBAC. Mae ei waith yn cynnwys datblygu arholiadau iaith a sicrhau eu bod yn cael eu hachredu a’u rheoleiddio.
Mae maes profi iaith ar flaen yn gad o ran ieithyddiaeth gymhwysol ac mae’n parhau i fod yn faes eithaf cyfyngedig. Fel arfer, mae gan bobl sy’n gweithio ym maes asesu iaith gefndir naill ai mewn ystadegau neu mewn addysgu iaith, fel yn achos ein dau siaradwr gwadd. Roedd sgwrs Lillie ac Emyr yn ddiddorol ac yn agoriad llygad: wrth ystyried pa lwybrau gyrfa posibl y gall rhywun eu dilyn o feddu ar radd mewn ieithyddiaeth, ymddengys yn aml mai addysgu ac ymchwil yw’r unig ddau opsiwn, ond bellach gellir ychwanegu profion iaith at y rhestr.
Er gwaethaf y pandemig, roedd y Gyfres ar Gyflogadwyedd yn ystod y semester blaenorol o’r radd flaenaf un ac yn addysgiadol dros ben. Os na chawsoch chi’r cyfle i gymryd rhan yn rhai o’r sgyrsiau neu yn yr un ohonyn nhw, fy ngobaith yw y bydd y crynodeb hwn yn rhoi ichi’r wybodaeth a golloch chi a hwyrach y bydd wedi’ch argyhoeddi i gymryd rhan yn y sgyrsiau a fydd yn cael eu cynnal yn ystod Bloc Addysgu 2. Mae Alexia wedi gwahodd rhai siaradwyr gwadd eithaf diddorol i siarad â ni i gyd am yr holl gyfleoedd y gall gradd Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth Gymhwysol eu cynnig!
9fed Chwefror 2021: Gweithio mewn Cwmni Cyhoeddi – MultiLingual Matters
Pwy sy’n penderfynu pa lyfrau fydd yn cael eu cyhoeddi?
Roedden ni’n ddigon ffodus i gael Tommi Grover o MultiLingual Matters i ddod i siarad â ni am gychwyn gyrfa ym maes cyhoeddi. Tommi yw rheolwr-gyfarwyddwr y cwmni cyhoeddi llyfrau academaidd annibynnol hwn. Sefydlwyd y cwmni yn ystod yr 1890au gan deulu Grover, ac ar hyn o bryd mae Multilingual Matters/Channel View Publications Cyf yn canolbwyntio ar gynhyrchu llyfrau ac mae’r cwmni’n cyhoeddi ym meysydd ieithyddiaeth gymhwysol, addysg llythrennedd, addysg amlddiwylliannol, dysgu iaith i fewnfudwyr a chaffael ail iaith (mae Channel View Publications Cyf yn canolbwyntio ar Astudiaethau Twristiaeth gan gynnwys meysydd ymchwil megis materion sy’n ymwneud â chynaliadwyedd, moeseg a thrafnidiaeth gyhoeddus).
Roedd Tommi yn siaradwr a oedd yn gallu dal sylw’i gynulleidfa ac roedd yn adnabod y maes i’r dim. Rhoddodd inni gyfoeth o wybodaeth nid yn unig am yr hyn y mae’u cwmni yn ei wneud a’r rolau gwahanol y mae pob adran yn ymgymryd â nhw (gan gynnwys y golygyddion comisiynu, golygyddion copi, gwerthu a marchnata yn ogystal â mynd ati i gynhyrchu’r cynnyrch terfynol), ond aeth Tommi i’r afael hefyd â rhai o’r prif bryderon ym myd dewr newydd cyhoeddi ar-lein ac e-lyfrau. Ni fydd gan Tommi a’i dîm ddau ddiwrnod sy’n debyg i’w gilydd; gall y gweithgareddau amrywio rhwng darllen cynigion llyfrau, cynnal cyfarfodydd gyda’r staff a chyfarfodydd allanol yn ogystal â chynadleddau ymweld lle bydd llyfrau’n cael eu gwerthu a chysylltiadau’n cael eu meithrin ag ymchwilwyr yn y maes. Un o uchafbwyntiau Tommi a’r tîm yw darllen deunydd amrywiol a diddorol o’r fath drwy’r amser a chael trosolwg eang o’r ddisgyblaeth y maen nhw’n angerddol amdani.
Ar y cyd â The Society of Young Publishers a The Bookseller y soniwyd amdanyn nhw uchod mewn digwyddiad a gawson ni yn 2020, soniodd Tommi am rai adnoddau rhagorol ar gyfer graddedigion brwd sydd â diddordeb mewn gweithio yn y maes megis Bookbrunch, sef gwefan newyddion a chylchlythyr sy’n rhoi’r newyddion diweddaraf am fyd cyhoeddi yn ogystal â hysbysebion swyddi. Ar ben hyn, soniodd Tommi am The Publishers Association, sef corff y diwydiant yn y DU sy’n disgrifio’r sectorau gwahanol a all fod o ddiddordeb i raddedigion. Rhestrodd hefyd The Independent Publishers Guild, sef corff y diwydiant ar gyfer cyhoeddwyr llai ac annibynnol (mae ganddi hysbysfwrdd swyddi weithredol ac adnoddau sydd wedi ymrwymo i gynyddu materion amrywiaeth a chynwysoldeb yn y byd cyhoeddi). Yn olaf, clywon ni gan Tommi hefyd am The Scholarly Kitchen sydd, yn ei farn ef, yn flog dyddiol a diddorol a all roi cipolwg i’r graddedigion hynny sy’n ymddiddori yn y maes ar y syniadau a’r safbwyntiau cyfredol am fyd cyhoeddi academaidd.
Yn hael gyda’i amser, ac yn angerddol am ei ddiwydiant, atebodd Tommi lawer o’n cwestiynau, gan roi digon inni gnoi cil arno (a chynifer o adnoddau inni chwilio drwyddyn nhw).
Ar y ffordd ym mis Mawrth 2021!
2il Mawrth 2021: Sut i gychwyn gyrfa mewn newyddiaduraeth!
Pwy byddech chi’n cyfweld ag ef?
Bydd Dr Richard Thomas yn siarad â’r myfyrwyr am gychwyn gyrfa ym maes newyddiaduraeth! Mae Richard yn uwch-ddarlithydd yn y cyfryngau ym Mhrifysgol Abertawe ac yn gyd-olygydd JournalismKX (sef, fforwm ar-lein lle gall ysgolheigion a newyddiadurwyr drafod materion allweddol sy’n ymwneud â chyfryngau newyddion). Ef hefyd yw golygydd The Swansea Mumbler sy’n cynnwys gwaith gan staff a myfyrwyr o adran y Cyfryngau a Chyfathrebu. Bydd Richard hefyd yn ysgrifennu ar gyfer y cylchgrawn misol Wisden Cricket ac yn ymddangos ar raglenni radio’r BBC i drafod newyddion, gwleidyddiaeth, etholiadau a chwaraeon. Bydd Richard yn trafod ei awgrymiadau gorau ar gyfer cychwyn gyrfa ym maes newyddiaduraeth gyda’r graddedigion!

23ain Mawrth: Beth galla i ei wneud ar ôl graddio?
Bydd y Gymdeithas Ieithyddiaeth Gymhwysol yn cynnal digwyddiad gyda’r bwriad o edrych ar yr opsiynau gwahanol sydd gan fyfyrwyr Ieithyddiaeth Gymhwysol ar ôl iddyn nhw raddio. Ymhlith y siaradwyr bydd Keighley Perkins, ymgeisydd PhD yn yr adran, a Dr Alexia Bowler sy’n swyddog cyflogadwyedd yn yr adran. Mae’n argoeli’n ddigwyddiad addysgiadol a bydd toreth o wybodaeth am yr hyn y gall y swyddfa gyflogadwyedd ac Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA) ei wneud i gefnogi myfyrwyr yn ystod eu cyfnod yn Abertawe, yn ogystal â thrafod pa leoliadau a allai fod ar gael. Byddwn ni’n trafod hefyd y straeon niferus o lwyddiant am yr hyn y mae myfyrwyr wedi mynd ymlaen i’w wneud ar ôl graddio.