Hoff fodiwl Molly Havard: Hanes yr Iaith Saesneg

Croeso i flog mis Gorffennaf sy’n gyfweliad fideo arall gyda’r fyfyrwraig Molly Havard sy’n siarad â ni am un o’i hoff fodiwlau eleni: Hanes yr Iaith Saesneg. Cafodd Molly ei chyfweld gan y fyfyrwraig interniaeth Shawn Lee (Ail flwyddyn BA Iaith Saesneg a’r Cyfryngau) ac yn y cyfweliad mae Molly yn rhoi trosolwg i ni o’i phrofiad hi o’r modiwl yn ystod y pandemig!