Gwybodaeth hanfodol ynghylch cynadledda

Yn y blogiad hwn, mae dau o’n myfyrwyr PhD cyfredol, sef Chloe Mills a Tesni Galvin, yn trafod eu profiadau yn sgîl mynychu cynadleddau a rhannu eu hymchwil. Darllenwch ymlaen i gael cyngor rhagorol!

Rhan fawr o fyd ymchwil yw cynadleddau oherwydd eu bod yn un o’r prif ffyrdd y gallwch chi rannu’ch canfyddiadau ymchwil, cwrdd â chydweithwyr unwaith eto a pharhau mewn cysylltiad â’r pynciau mwyaf cyfredol yn eich maes. Ar ben hyn, maen nhw’n un o’r ffyrdd gorau o wneud un o’r pethau pwysicaf yn y byd academaidd, sef rhwydweithio, ond serch hynny bydd pobl yn ei ofni gymaint weithiau! Yn y blogiad hwn byddwn ni’n dadansoddi’r hyn sydd ynghlwm wrth fynychu cynhadledd ac yn myfyrio ynghylch rhai o brofiadau myfyrwyr Abertawe yn sgîl mynychu cynadleddau.

Ble i ddechrau?

Yn aml, bydd sefydliadau neu gymdeithasau proffesiynol ym mhob maes ymchwil yn cynnal cynadleddau. Bydd rhai ohonyn nhw’n gynadleddau rhyngwladol enfawr tra y bydd rhai eraill yn cael eu cynnal gan grwpiau ymchwil llai a mwy lleol. Gall fod yn frawychus iawn ceisio darganfod p’un yw’r gynhadledd “orau”, gan y bydd gan bob disgyblaeth brif gynadleddau mwy eu maint a bydd nifer o rai llai eu maint hefyd. Felly mae’n anodd dweud pa rai yw’r prif gynadleddau ym maes Ieithyddiaeth Gymhwysol oherwydd ei bod hi’n dibynnu mewn gwirionedd ar eich maes ymchwil. Fodd bynnag, un o’r rhai mwyaf yn y DU yw BAAL (Cymdeithas Ieithyddiaeth Gymhwysol Prydain). Mae BAAL yn cynnal cynhadledd flynyddol yn ogystal â nifer o gynadleddau llai y bydd eu Grwpiau Diddordeb Arbennig (SIG) yn eu cynnal.

Ffordd dda o ddechrau gwthio’r cwch i’r môr yw mynychu cynadleddau llai, seminarau neu ddigwyddiadau eraill sy’n gysylltiedig ag ymchwil. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd wych o gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â phwy sy’n cynnal beth – dechreuwch gyda chyfrifon cyfryngau cymdeithasol eich prifysgol, e.e. yn fy achos i, Ieithyddiaeth Gymhwysol Abertawe yw’r cyfrif perthnasol ac yna gallech chi ddechrau chwilio fymryn ymhellach i ffwrdd drwy edrych ar dudalennau doethurol cyffredinol. Er enghraifft, yng Nghymru bydd tudalen Academi Ddoethurol Prifysgol Caerdydd yn aml yn anfon gwybodaeth am ddigwyddiadau sydd ar ddod. Ar ôl edrych ar y tudalennau hyn, gwelais i gynadleddau llai yn cael eu hysbysebu megis y digwyddiad am amlieithrwydd y mae fy nghyd-fyfyrwraig PhD, Tesni Galvin, yn ei drafod isod. Hefyd, cadwch mewn cysylltiad â’ch adran a pheidiwch ag ofni gofyn i gydweithwyr a ydyn nhw wedi clywed am unrhyw beth sy’n digwydd y dylech chi ei fynychu. Bydd fy ngoruchwylwraig yn aml yn anfon dolenni defnyddiol o ran gweminarau, seminarau, gweithdai neu gynadleddau y mae’n credu y bydden nhw’n fuddiol imi – mae hon yn ffordd hanfodol a defnyddiol i ddechrau deall beth sy’n digwydd yn eich maes.

Rhwydweithio

Felly sut mae mynd ati i rwydweithio, yn enwedig os ydych chi’n ymchwilydd newydd? Dyma pryd y byddwn i’n argymell mynychu cynadleddau llai ar y dechrau gan ei bod hi’n haws rhwydweithio ynddyn nhw a byddwch chi’n gweld wynebau mwy cyfarwydd. Mae’n rhaid ichi feithrin rhyw fymryn o hyder; peidiwch â bod ofn siarad â phobl gan fod pobl mewn cynadleddau yn fy mhrofiad i bob amser yn wirioneddol gyfeillgar, rydych chi i gyd yno am resymau tebyg, ac mae’n debyg y bydd rhai pobl eraill yno nad ydyn nhw erioed wedi bod mewn cynhadledd. Os gallwch chi, ewch gyda’ch goruchwyliwr neu gyda myfyriwr arall, neu yng nghwmni cydweithiwr arall oherwydd y byddan nhw hwyrach, drwy wneud hynny, yn gallu eich cyflwyno chi i bobl eraill. Hefyd, mynychwch y sesiynau posteri a choffi gan fod y rhain bob amser yn gyfle da i gymysgu mewn grwpiau llai ac i feithrin cysylltiadau.

Awgrym da arall yw siarad â’ch cydweithwyr i wybod a yw’ch adran neu brifysgol yn cynnal digwyddiadau mewnol, ac yna gofynnwch iddyn nhw a allwch chi eu helpu yn hynny o beth. Dyna’r ffordd y bu imi gymryd rhan wrth helpu gyda Fforwm Profion Iaith 2019. Roedd hwn yn brofiad mor dda gan imi gael y cyfle i helpu o ran trefnu’r gynhadledd. Hefyd, cyflwynais i boster am fy ymchwil MA (diolch yn fawr #BetterPoster!). A mynychais i ginio’r gynhadledd ac roedd pob un o’r rhain yn gyfleoedd gwych i drafod fy ymchwil a chwrdd ag ymchwilwyr eraill. Roedd cymryd rhan wrth drefnu’r gynhadledd yn golygu fy mod i wedi cael cyfle da i sgyrsio ag ysgolheigion ar ymweliad. Hefyd, rhoddodd y cyfle imi ddeall sut mae cynhadledd yn gweithio o’r tu mewn a’r tu allan i’r digwyddiad. Roedd cyflwyno fy mhoster yn frawychus ond roedd hefyd yn wych oherwydd imi gael sylwadau ac adborth defnyddiol iawn gan rai o’r enwau mawr ym maes profion iaith. Er ei bod hi’n frawychus, roedd yn newid y ffordd yr oedd yn rhaid imi fireinio’r ymchwil at ddibenion ei chyhoeddi ac felly yn y pen draw roedd yn un o’r pethau gorau y gallwn i fod wedi’i wneud.

Ar hyn o bryd mae @chloeaamills yn astudio PhD mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol ym Mhrifysgol Abertawe sy’n ymchwilio i ffyrdd o ysgrifennu iaith gyntaf sy’n seiliedig ar gorpysau.  

Dull Defnyddio Sgaffaldwaith

Tesni Galvin ac Amelia Cobner yng nghynhadledd EuroSLA 27

Fel y gwyddom, mae’r pandemig wedi cael effaith ddwys ar fywyd pob un ohonon ni, gan gynnwys y ffordd rydyn ni’n cynnal ein hastudiaethau academaidd. Fel myfyriwr PhD, mae presenoldeb a gwneud cyflwyniadau mewn cynadleddau yn rhan annatod o’n datblygiad personol a phroffesiynol. Cyn mis Mawrth 2020, roedd cynadleddau rhithwir yn beth anghyffredin. Fodd bynnag, ers dechrau COVID-19, maen nhw wedi mynd yn fwyfwy poblogaidd ac rwy wedi mynychu dwy gynhadledd ar-lein, sef Cynhadledd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chynhadledd Ieithyddiaeth Wybyddol y DU.

Yn ffodus ddigon, cefais i fy mhrofiad cyntaf o gynhadledd ryngwladol cyn COVID-19 (dair blynedd yn ôl pan roeddwn i’n fyfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Reading). Cyd-gyflwynodd fy nghydweithwraig Amelia Cobner a minnau boster ynghylch canlyniadau ein traethawd hir israddedig dan lygad arweiniol ein goruchwylwraig, Dr Vivienne Rogers. Mynychon ni lawer iawn o sgyrsiau diddorol a chawson ni ein cyflwyno i nifer o gydweithwyr Dr Rogers. Roedd cyd-gyflwyno poster yn EuroSLA 27 yn brofiad hynod  fuddiol; cawson ni adborth cadarnhaol iawn ynghyd â nifer o awgrymiadau a syniadau dilys ar gyfer gwaith yn y dyfodol.

Tesni Galvin yn ISB 12

Ddwy flynedd ar ôl EuroSLA 27, rwy bellach wedi cwblhau fy Ymchwil MA ac rwy wedi cyd-gyflwyno fy nghanlyniadau MA ar lafar ar y cyd â Dr Rogers yng nghynadleddau UniteGen ac ISB 20. Yn fwy diweddar, rhoddais i ddau gyflwyniad llafar ar fy mhen fy hun yn EuroSLA 29 yn ogystal â’r gynhadledd ‘Amlieithrwydd a Hunaniaethau Lluosog yng Nghymru.’

Er fy mod wedi bod yn nerfus yn y gorffennol, mae’r daith rhwng cyflwyno yn fy nghynhadledd gyntaf i’r gynhadledd ddiweddaraf a fynychais i wedi fy nghyfoethogi a’m hysgogi’n fawr iawn. Dychmygwch pa mor falch yr oeddwn i o gael fy ngwahodd i wneud cyflwyniad fel rhan o banel Gyrfa Ymchwil Gynnar yn y gynhadledd ‘Amlieithrwydd a Hunaniaethau Lluosog yng Nghymru’. Heb os nac oni bai, mae dull defnyddio sgaffaldwaith Dr Rogers wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy sgiliau cyflwyno ac egluro mewn cyd-destun cyfeillgar a phroffesiynol, yn ogystal â dysgu sut orau i fynd i’r afael â chyflwyno mewn cynadleddau. Isod mae rhywfaint o gyngor allweddol ac awgrymiadau gorau y byddwn i’n eu hargymell yn fawr iawn.

Tesni yn EuroSLA 29

Awgrymiadau Gorau

  1. Nid yw’r un gynhadledd yn ‘rhy’ fach. Cyflwynwch grynodebau i gynadleddau y bydd eich adran a/neu goleg yn eu cynnal yn eich prifysgol. Ceisiwch bob amser ennill profiad drwy gyflwyno a bod yn ddigon dewr i gyflwyno crynodebau i gynadleddau rhyngwladol.
  2. Byddwch yn barod i ateb unrhyw beth o’r gynulleidfa a pharatowch yn drylwyr gan y bydd rhai cwestiynau’n eich cadw ar flaenau’ch traed! Mae pobl wedi gofyn amrywiaeth eang o gwestiynau imi, gan gynnwys rhai cyffredinol iawn a rhai hynod  dechnegol.
  3. Rhwydweithiwch, rhwydweithiwch, rhwydweithiwch!

Gwnewch eich gorau glas i gymryd rhan, a chofiwch fwynhau’ch hun bob amser!

Ar hyn o bryd, mae @TesniGalvin yn astudio PhD mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol ym Mhrifysgol Abertawe, gan ymchwilio i’r ffordd y bydd siaradwyr Cymraeg sy’n oedolion yn prosesu iaith.