Yn ein blog diweddaraf, meddwl oeddem ni y byddem yn rhannu sgwrs yr Athro Tess Fitzpatrick ynghylch ‘Learning, Sharing and Losing Words’ a gyflwynwyd yn y gyfres Linguistics Online eleni, sef cyfres arloesol o sgyrsiau wedi’u trefnu gan Abralin Ao Vivo, y Sefydliad Ieithyddiaeth ym Mrasil.
Drwy gydol y flwyddyn, ond fel arfer yn ystod cyfnod yr haf, bydd academyddion yn mynychu cynadleddau yn aml, gan gyflwyno sgyrsiau ynghylch eu hymchwil fel rhan o’n cylch gorchwyl i rannu a dosbarthu gwybodaeth.
Fel rydym ni i gyd yn ei wybod, yn 2020 roedd yn rhaid ail-feddwl ein ffyrdd o weithio, rhwydweithio a dosbarthu ymchwil yn ystod pandemig COVID-19, ac roedd y sgwrs hon yn un o sawl sgwrs yn y gyfres a drefnwyd gan Abralin Ao Vivo mewn ymateb i’r arferion newydd hyn. Mae’r gyfres wedi cynnwys sgyrsiau gan David Crystal, Steven Pinker, William Labov, Noam Chomsky, Salikoko S. Mufwene a John McWhorter.
Mwynhewch!