CELTA yn oes COVID-19, bwrw golwg yn ôl ar 2020

Yn y llun uchod, o´r chwith i’r dde: Paul Lewis, Heidi Luk, Alex Torry, ac arweinydd y modiwl Neal Evans

Fel y gwyddom, aeth llawer o addysgu’r brifysgol ar-lein o ganol mis Mawrth ymlaen oherwydd pandemig COVID-19. Yn achos rhai modiwlau, roedd hyn yn peri mwy o broblem na modiwlau eraill, sef y rhai sy’n cynnwys elfen ymarferol yn enwedig.

Yn yr Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol ym Mhrifysgol Abertawe, rydyn ni’n cynnig cwrs CELTA fel rhan fewnol o’n rhaglenni gradd BA (sydd ar gael i fyfyrwyr yn ein hadran, yn amodol ar ddilyniant a chyfweliad digonol). Mae hwn yn cael ei gynnal ochr yn ochr â’n modiwlau ym mloc addysgu 1 (rhwng mis Hydref a mis Ionawr) a bloc addysgu 2 (rhwng mis Chwefror a mis Ebrill) ac mae’n cael ei gynnal fel cwrs ‘rhan-amser’ (yn hytrach na’r hyfforddiant dwys amser llawn 4 wythnos arferol ar gwrs CELTA).

Mae llawer o’n myfyrwyr yn cychwyn ar y ‘bedydd tân’ addysgegol hwn ac yna’n gorffen y cwrs yn weithwyr proffesiynol newydd sbon danlli sy’n awyddus i gydio yn y gwaith o addysgu myfyrwyr. Rydyn ni’n falch iawn o bob un ohonyn nhw, yn enwedig nifer o’n myfyrwyr CELTA mewnol diweddaraf y bu’n rhaid iddyn nhw, ar y cyd â’u cydweithwyr allanol, wynebu’r tarfu a fu ar dair wythnos olaf eu hyfforddiant.

Isod ceir rhai o safbwyntiau arweinydd y modiwl, Neal Evans, a’i fyfyrwyr ynglŷn â phrofiad CELTA eleni.

Neal Evans (ALE225 Ymarfer Addysgu, Arweinydd y Modiwl)

Wrth iddi ddod yn amlwg nad oedd cwrs CELTA yn mynd i allu gorffen drwy gynnal y sesiynau ar ffurf wyneb yn wyneb, cynigion ni i’n hyfforddeion barhau â’u mewnbwn a’u haseiniadau ar-lein a’u cwblhau gan ddefnyddio’r cyfrwng hwnnw.

Yna, cafwyd 3 wythnos o fewnbwn ac, yn ogystal â derbyn cymorth ar gyfer yr aseiniadau, roedd yr holl hyfforddeion yn gallu cwblhau popeth.

Roedd adborth y grŵp cyfan yn mynegi gwerthfawrogiad o’r hyblygrwydd a’r cymorth a gafwyd wrth bontio i’r profiad hyfforddi gwahanol iawn hwn. Nid yw’n syndod bod y grŵp clòs iawn hwn wedi helpu’i gilydd trwy gydol y broses a dod yn agosach byth.

Hefyd, cwblhaodd y tri myfyriwr mewnol eu hasesiad ar gyfer modiwl ALE 225 yn seiliedig ar yr wybodaeth a’r set  sgiliau roeddyn nhw newydd eu hennill.

Cwblhaodd dau hyfforddai (nid y myfyrwyr mewnol) eu Hymarfer Addysgu ar-lein hyd yn oed ac maen nhw bellach yn aros i dderbyn eu tystysgrif gan Cambridge Assessment. Roedd angen caniatâd arbennig ar gyfer hyn gan fod y cwrs yn amodol ar 6 awr o addysgu wyneb yn wyneb. Yn sgîl y digwyddiadau rhyfeddol hyn, sefydlodd y cwrs gynsail a phrotocolau sydd bellach yn arwain ELTS (Y Gwasanaeth Hyfforddi Iaith Saesneg) wrth iddo gyflwyno am y tro cyntaf ardystiad o eiddo CELTA yn sgîl cwrs a gynhelir ar-lein yn gyfan gwbl!


Paul Lewis, myfyriwr yn yr ail flwyddyn, BA (Anrh) Iaith Saesneg

Canmolir CELTA Prifysgol Caergrawnt fel cwrs dwys a’i fod yn un o’r cymwysterau safonol a chymeradwy ym maes Addysgu Iaith Saesneg. Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol Prifysgol Abertawe mewn partneriaeth ag adran Gwasanaethau Hyfforddi Iaith Saesneg (ELTS) Prifysgol Abertawe sy’n ei gynnig. Ar ôl imi weld i fy ffrindiau ar y cwrs ‘ddioddef’ o’i herwydd cyn hyn, penderfynais i yn y pen draw wneud yr un peth a mentro.

Peth anarferol imi yw mentro fel hyn. Rwy’n ystyried fy hun yn berson eithaf pryderus a thawel; y math o berson sy’n fodlon ei fyd yn syllu ar y waliau. Yn wir, rwy wedi meddwl yn aml fy mod yn berson y mae’n gweddu orau iddo eistedd yng nghefn ystafell ddosbarth yn hytrach na sefyll o’i blaen.

A bod yn onest, roeddwn i’n teimlo gwrthdaro mewnol cyn cychwyn. Er fy mod i’n awyddus i wneud rhywbeth a mentro, bydda i hefyd fel arfer yn ceisio osgoi camu allan o’m parth cyfforddusrwydd, ac mae’n gas gen i fentro. Yn y diwedd, fodd bynnag, es i ati i fentro ar gais aelod calonogol o’r teulu; roedd y rhyddhad yn digwydd ar unwaith ac yn amlwg – teimlais i nad oedd bywyd bellach yn mynd heibio imi.

Rwy’n credu mai’r peth gorau y galla i ei wneud i ddisgrifio profiad CELTA yw dweud ei fod yn gwireddu’r disgwyliadau i gyd. Yr hyn a ddywedir yn aml yw “ei bod yn anodd, ond mae’n werth yr ymdrech”, ac mae hynny’n cyfateb i fy mhrofiad personol i’n eithaf da.

Yn ystod yr wythnosau cyntaf dysgais i lawer amdanaf i fy hun: sut rwy’n ymdopi â straen; sut rydw i’n gweithio o dan bwysau a sut rydw i’n ymdopi â dyddiadau cau. Ar ôl imi ddadansoddi fy ymddygiad a fy mecanweithiau ymdopi, roedd y cwrs yn caniatáu imi dyfu fel person. Ar ôl ychydig  wythnosau, mae’n mynd yn fwy pleserus ac yn llai o straen. Gyda threigl amser, dechreuais i werthfawrogi’r eiliadau hynny sy’n rhan o wers, gan weld y gwerth yn yr hyn yr oeddwn i’n dysgu ei wneud.

Yna, wrth i bopeth ddechrau dod at ei gilydd, dechreuodd y cwarantîn. Cynhaliwyd y sesiynau mewnbwn a oedd yn weddill ar-lein, ac roedd hyn yn fodd i dorri’r dyddiau hir a oedd yn llawn pellter cymdeithasol. Caiff gweddill yr ymarfer addysgu ei gynnal ar-lein, a bydd hynny’n ddiddorol – her newydd, ffocws newydd, a sgil newydd.

Mae’n anodd distyllu fy mhrofiadau mewn ychydig o baragraffau. Hyd yn hyn, dw i ddim wedi dweud yr un dim am ba mor wych yw’r staff, na chwaith sut deimlad yw hi i addysgu’r wers gyntaf, neu sut brofiad oedd hi pan gaeodd y brifysgol, neu’r niwed meddyliol a chorfforol sy’n digwydd yn sgîl hyn. Digwyddais i gwrdd â rhywun y bues i’n ei addysgu mewn siop y diwrnod o’r blaen, a does gen i ddim syniad o hyd ynglŷn â sut i ymateb!

Ac mae hynny’n dweud y cyfan, siŵr o fod: bod fy mywyd yn gyfoethocach yn sgîl dilyn y cwrs hwn, a fy mod i fymryn yn fwy optimistaidd am yr hyn sydd ar ddod. Er y bydd hi’n gryn amser o hyd hwyrach cyn y galla i ddeall go iawn yr hyn rwy i wedi’i wneud, rwy’n gwybod yn bendant fy mod yn well fy myd o fod wedi’i wneud.

Heidi Luk – myfyrwraig yn yr ail flwyddynBA (Anrh) Iaith Saesneg a TESOL

CELTA oedd uchafbwynt fy ail flwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe. Caniataodd imi ddysgu technegau addysgu ymarferol yn ogystal ag ymarfer addysgu Saesneg. Rwy’n falch o fod wedi cael profiad a oedd wedi fy mlino cymaint ond eto’n bleserus ac yn werthfawr iawn.

Roedd dysgu ar gwrs CELTA yn effeithiol iawn gan fy mod i wedi gallu rhoi’r wybodaeth a enillwyd ar waith bron ar unwaith, ac yna’n aml. Roedd ymarfer addysgu bob wythnos yn rhoi’r cyfle imi gymhwyso technegau yr oeddwn wedi’u dysgu’r wythnos flaenorol. Ar ben hynny, roedd yr adborth uniongyrchol ar yr ymarfer gan yr hyfforddwyr yn ein helpu i werthuso’n haddysgu a gwneud gwelliannau yn sgîl hynny. Roedd yn brofiad gwerthfawr, sef rhoi cynnig ar dechnegau gwahanol yn y dosbarth ac addasu fy nghynlluniau addysgu.

Un o bethau gorau’r cwrs oedd y profiad o addysgu myfyrwyr go iawn. Roedd yn hyfryd dod i gysylltiad â phobl sy’n awyddus i ddysgu. Cefais i amser hyfryd gyda nhw a bu’n fodd imi ddysgu mwy am fy steil addysgu fy hun wrth eu haddysgu.

Drwy gydol y cwrs, roedd y cymorth a gefais i gan yr hyfforddwyr yn ddefnyddiol iawn. Nid hawdd o beth oedd rheoli CELTA ar y cyd â gwaith prifysgol arall yn ystod cyfnod mor gyfyngedig (mae’r cwrs yn parhau am 12 wythnos yn rhan-amser ac yn cael ei gynnal ar yr un pryd â’ch modiwlau eraill). Mae’r cymorth a’r hyblygrwydd a gefais i gan yr hyfforddwyr wedi fy helpu i gwblhau’r cwrs hwn gyda llawer llai o straen nag yr oeddwn wedi’i ragweld yn wreiddiol.

Yn bwysicaf oll, mae CELTA wedi caniatáu inni wneud cais am lawer o swyddi addysgu. Rwy’n cyffroi drwyddi draw am fy swyddi addysgu gwirfoddol a swyddi addysgu â thâl yn y dyfodol.

Alex Torry, myfyriwr yn yr ail flwyddyn, BA (Anrh) Iaith Saesneg a TESOL

Mae gen i ffrind y newidiwyd ei fywyd yn sgîl addysgu yn Fietnam. Roedden ni’n arfer siarad amdano’n aml a buon ni’n trafod sut y dylwn i wneud yr un peth. Rwy bob amser wedi breuddwydio am fyw yn Siapan a chefais fy argyhoeddi gan fy ffrind ei bod hi’n rhywbeth y dylwn i fynd ar ei ôl rhag ofn imi edifarhau yn nes ymlaen yn fy mywyd. Felly, cofrestrais i yn y brifysgol at y diben hwnnw gan astudio gradd iaith Saesneg a TESOL yn Abertawe.

Unwaith i mi wybod am CELTA, roeddwn i’n gwybod ei bod hi’n rhywbeth roedd yn rhaid imi ei wneud. Dywedwyd wrtha i fod dilyn cwrs CELTA yn rhan o’r cynllun gradd yn un o’r pethau dwysaf ac anhawsaf y byddai disgwyl imi ei brofi yn ystod fy mywyd yn y brifysgol, ac a bod yn onest roeddwn i wedi penderfynu gohirio’r cwrs hyd nes imi orffen fy ngradd. Fodd bynnag, ar ôl  i fy ffrindiau, fy nheulu a fy narlithwyr fy annog i, dyna gymryd naid ffydd a phenderfynu mentro.

Wna i ddim dweud celwydd wrthych chi, roedd dechrau’r cwrs yn frawychus. Roedd popeth a ddywedwyd am ddwyster ac anhawster cydbwyso’r cwrs ochr yn ochr â dyletswyddau prifysgol eraill yn llygad ei le. Roedd yn anodd, ond yn rhyfeddol ddigon, roeddwn i wrth fy modd! Yr hyn a sylweddolais i yn ddiweddarach oedd y byddai cymaint o bethau cadarnhaol yn cymryd ei le erbyn i’r ofn cychwynnol am sefyll o flaen dosbarth ostegu rywfaint. Dysgais i lawer amdana i fy hun a’m myfyrwyr. Dechreuais i deimlo fy mod wedi cyflawni rhywbeth ac roedd y cwrs yn cadarnhau bod hyn yn rhywbeth roeddwn i eisiau ei wneud gyda fy mywyd.

Y rhan orau o’r cyfan yw’r myfyrwyr, heb os. Maen nhw’n wych, ac maen nhw y tu ôl ichi gant y cant o’r diwrnod cyntaf un. Rwy wedi tyfu fel person oherwydd y cwrs ei hun, ond hefyd yn sgîl y cymorth gan yr hyfforddwyr, staff y brifysgol a fy nghyfoedion. Mae fy hyder, fy ngallu i ymdopi â’r pwysau yn ogystal â fy aeddfedrwydd wrth ymdopi â sefyllfaoedd llawn straen oll wedi gwella’n ofnadwy mewn cyn lleied o amser. Y tu hwnt i ddysgu am sut i addysgu rwy wedi dysgu gwersi bywyd gwerthfawr a fydd gen i bob amser, ni waeth i ba le yr af i yn ystod fy mywyd.

Roedd popeth yn mynd yn wych; roedden ni wedi cwblhau popeth bron iawn. Yna, a dim ond tair gwers yn weddill i’w haddysgu … dyna COVID-19 yn taro.

Caeodd popeth lawr yn sydyn ac roedd fel petai’r tir wedi’i dynnu allan o dan ein traed. Roedd y rhwystredigaeth gychwynnol yn llethol. Fodd bynnag, diolch i ymdrechion Neal, Jen, Peter a’r adran gyfan, gwnaethon ni gwblhau’n sesiynau mewnbwn ar-lein a bu modd inni gyflawni’r aseiniadau. Bellach rydyn ni’n paratoi i addysgu’n tair gwers olaf ar-lein. Nid dyma’r ffordd yr oeddwn wedi dychmygu popeth, ond mae’r amgylchiadau hyn yn pwysleisio pa mor bwysig yw bod yn hyblyg a gallu addasu yn wyneb newidiadau. Ac, er gwaethaf yr ansicrwydd cyfredol, rwy wedi cyffroi’n lân! Wedi fy nghyffroi gan y cyfle i ennill profiad mewn maes addysgu arall – un na chafodd sylw yn y cwrs i ddechrau, ond un sy’n mynd yn gynyddol bwysig yn ôl pob tebyg.

Am wn i felly, o grynhoi fy nheimladau am CELTA, byddwn i’n dweud y canlynol: os bydd rhywun sydd wedi gwneud y cwrs fel rhan fewnol o’r radd yn dweud wrthych chi, “Dyw e ddim mor anodd â hynny …”, peidiwch ag ymddiried ynddo i fwydo’ch cathod tra’ch bod ar eich gwyliau! Mae’n anodd, mae’n llawn straen, ac mae’n eich gwthio ymhellach na’r hyn yr oeddech chi’n meddwl y gallech chi’i gyflawni. Ond mae’n werth yr ymdrech, pob un munud ohono.