Bywyd fel un o Raddedigion Prifysgol Abertawe, gan Sheridan Cole

Llun ohono i yn ystod diwrnod graddio, mis Gorffennaf 2018

Graddiais i o Brifysgol Abertawe yn 2018 gyda gradd mewn Iaith Saesneg a TESOL. Y prif resymau imi wneud cais i Abertawe oedd y cwrs CELTA integredig a’r dewis helaeth o fodiwlau a oedd ar gael. Roedd y cwrs CELTA yn cyd-fynd yn berffaith â’r cwrs gradd gan ei fod yn cyfuno methodoleg addysgu â phrofiad addysgu ymarferol. Mwynheuais i fy amser ym Mhrifysgol Abertawe ac, ar ben hynny, rwy o’r farn mai cynnwys y cwrs a’r darlithwyr sydd i gyfrif am fy nhwf personol ac academaidd.

Yn ystod haf 2018, cwblheuais i fy nhraethawd hir bythefnos yn gynnar er mwyn mynd ar drywydd y drysau newydd a oedd yn agor imi yn sgîl fy nghymwysterau. Ar 10fed Mai, hedfanais i i dde Ffrainc am chwe wythnos i weithio mewn Gwersyll Haf. Cefais i’r fraint o weithio ochr yn ochr â chydweithwyr bywiog a llawn hwyl yn ogystal â chyfarwyddwr cefnogol. Roedd yn gyfle imi ennill profiad addysgu anffurfiol tra fy mod i’n creu gweithgareddau dyddiol i ddifyrru’r gwersyllwyr.

Fy lleoliad pan roeddwn i’n addysgu yn ne Ffrainc. Mai 2018

Yn ystod mis Gorffennaf ac Awst, bues i’n gweithio mewn Ysgol Haf Ryngwladol yn Essex. Athro Saesneg Ysgolion Iau oeddwn i yn bennaf ond cymerais i ran hefyd yn y gwibdeithiau wythnosol, y gweithgareddau grŵp a’r gweithgareddau chwaraeon a gynigiwyd i’r myfyrwyr. Roedd y myfyrwyr wedi hedfan i’r gwersyll o rannau gwahanol o’r byd ac roedd yn hyfryd addysgu dysgwyr ifanc o Tsieina, Rwsia, Gwlad Thai a Sbaen i enwi ond ychydig  wledydd. Unwaith eto, roedd y profiad yn un cadarnhaol a difyr iawn oherwydd y staff a’r rheolwyr cefnogol. Yn olaf, daeth yr haf i ben pan fues i’n gweithio mewn gwersyll yn yr Eidal am bythefnos. Roedd y swydd hon yn llai o beth o gymharu â’r profiadau blaenorol a gefais i ond roedd yn gadarnhaol iawn serch hynny. Bues i’n byw gyda theulu sy’n cynnig llety a gwnaethon nhw beri imi deimlo bod croeso mawr imi a dyna oedd y ffordd berffaith i orffen yr haf.

Yn ystod y diwrnod cyntaf ar leoliad addysgu

Ar y 29ain o Fedi, symudais i i Abu Dhabi i ddechrau fy swydd newydd fel Athro Saesneg yn un o ysgolion y Llywodraeth yno. Treuliais i’r pythefnos cychwynnol yn paratoi ar gyfer fy lleoliad. Roedd hyn yn cynnwys gwiriadau meddygol, cael cardiau adnabod a sesiynau sefydlu ffurfiol. Roedd y Ddinas ei hun yn drawiadol iawn ac roeddwn i’n teimlo cymysgedd o gyffro a nerfusrwydd wrth imi gychwyn ar fy nhaith addysgu.

Ar ôl y pythefnos rhagarweiniol, cefais i fy lleoliad addysgu gan symud i bentref gwledig ddwy awr i ffwrdd o oleuadau llachar y ddinas. Roedd hyn yn gyferbyniad llwyr i fy mhrofiad blaenorol gan fod y lleoliad gryn dipyn yn llai ac yn fwy traddodiadol o’i gymharu â’r ddinas fodern. Roedd yn gyfnod hynod o brysur ar y cychwyn, a dweud y gwir. O ran y gwaith, roeddwn i’n addysgu 4 dosbarth ac yn addasu i fy amserlen newydd. Yn bersonol, roeddwn i’n ceisio dod o hyd i lety tymor hir priodol. Llanw a thrai oedd y profiadau a gefais i, ond roeddwn i’n obeithiol o hyd yn ystod y cyfnod hwn. Euthum ati i greu trefn feunyddiol ac roedd pob diwrnod yn rhoi’r cyfle imi ddysgu am ddiwylliant newydd ac iaith newydd yn ogystal â datblygu fy ymarfer addysgu.

Llun ohono i yn yr ystafell ddosbarth cyn i ddysgu o bell ddechrau, Mawrth 2020

Ar 24ain Gorffennaf 2020 bydd yn ddwy flynedd ers imi raddio ym Mhrifysgol Abertawe ac rwy’n falch o’r hyn rwy wedi’i gyflawni hyd yn hyn. Euthum ati i barhau â fy addysg drwy wneud gradd Meistr mewn Addysg o Bell ym Mhrifysgol Caerwysg a fydd wedi’i chwblhau ym mis Ebrill 2021. Rwy’n dal i weithio yn yr un lleoliad ysgol ond mae’r diwylliant a’r cyd-destunau a fu unwaith yn ddieithr bellach wedi dod yn gyfarwydd imi ac yn gartref oddi cartref. Rwy’n dal i fod yn obeithiol ar gyfer y dyfodol, lle bynnag y bydd hynny yn ystod yr adegau hyn sydd mor anodd i’w rhagweld.