
Bob blwyddyn, mae Prifysgol Abertawe’n cynnal COPA: digwyddiad sy’n dod â myfyrwyr, academyddion a gweithwyr proffesiynol ym myd diwydiant ynghyd i ddathlu arloesi, cydweithredu a chreadigrwydd. Mae COPA yn cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr Ieithyddiaeth Gymhwysol gyflwyno sut mae eu gwaith academaidd yn berthnasol i’r byd go iawn.
P’un a ydynt yn brosiectau ar adfywio iaith, cadwraeth iaith dreftadaeth, neu ddatblygiad polisi, mae cyflwyniadau gan fyfyrwyr yn dangos pa mor amlbwrpas a hollbwysig y mae ieithyddiaeth heddiw. O gyflwyniadau poster i draethodau ar ffurf fideo ac astudiaethau achos, mae eu gwaith yn dangos perthnasedd iaith wrth lunio hunaniaeth, cynhwysiant a chymuned.
Eleni, gwahoddwyd grŵp o fyfyrwyr i arddangos eu gwaith arbennig, gan gynnwys Caitlin, Jessica ac Ellie. Isod, ceir sylwadau gan y tair, lle maen nhw’n myfyrio ar eu prosiectau, yr hyn maen nhw wedi’i dysgu a pham mae eu gwaith yn bwysig.
Caitlin Childs, myfyriwr y 3edd flwyddyn (BA Iaith Saesneg gyda Blwyddyn Dramor)

“Roedd fy nghyflwyniad ar gaffael ail iaith yn canolbwyntio ar ieithoedd treftadaeth a’u dysgwyr. Archwiliais y gwahanol fathau o ieithoedd treftadaeth a’r cryfderau a’r gwendidau a brofwyd gan ddysgwyr sy’n defnyddio’r ieithoedd hynny. Hefyd, ymchwiliais i dermau arbenigol sy’n gysylltiedig â’r maes, megis trosglwyddiad iaith rhwng cenedlaethau.
Mwynheais greu’r cyflwyniad hwn oherwydd darganfyddais fy mod i fy hun yn ddysgwr iaith dreftadaeth. Roedd hi’n ddiddorol ymchwilio i’r maes hwn a dysgu mwy amdano! Mae bod yn Abertawe – sy’n gartref i lawer o amlddiwylliannaeth – yn golygu bod llawer o ieithoedd treftadaeth a dysgwyr yr ieithoedd hynny o’n hamgylch, felly roedd hi’n ddiddorol dysgu mwy am y pwnc.”
Jessica Waite, myfyriwr y 3edd flwyddyn (BA Iaith Saesneg)

“Yr aseiniad oedd cyflwyniad PowerPoint ar ieithoedd treftadaeth ar gyfer fy modiwl Caffael Ail Iaith. Roedd yn canolbwyntio ar yr heriau mae siaradwyr ieithoedd treftadaeth yn eu hwynebu a phwysigrwydd creu polisïau ac arferion addysgol cefnogol er mwyn diogelu’r ieithoedd hyn.
Roedd y pwnc yn ddiddorol iawn oherwydd amlygodd ba mor bwysig yw cynnal amrywiaeth ieithyddol. Roedd hefyd yn teimlo’n berthnasol i mi’n bersonol. Rwy’n berson o Gymru sydd ddim yn siarad Cymraeg yn rhugl, felly roeddwn yn uniaethu â’r syniad bod hunaniaeth ddiwylliannol yn gysylltiedig ag iaith, ac fe wnaeth fy annog i fyfyrio ar bwysigrwydd adfywio a gwerthfawrogi ieithoedd lleiafrifol.”
Ellie Dickinson, myfyriwr y 3edd flwyddyn (BSc Ieithyddiaeth Gymhwysol ac Iaith Saesneg gyda Blwyddyn Dramor)

“Roedd fy nghyflwyniad poster ar gyfer Polisi a Chynllunio Iaith yn canolbwyntio ar adnewyddu’r iaith Hawäieg, yn benodol drwy ymdrechion ym maes addysg ac yn y cyfryngau. Defnyddiais fframwaith bywiogrwydd UNESCO i asesu’r risg o berygl.
Roedd hwn yn aseiniad diddorol iawn oherwydd roedd yn rhaid i mi werthuso effeithiolrwydd rhaglenni’r llywodraeth yn feirniadol, yn ogystal ag ymdrechion mentrau ar lawr gwlad, ac ymrwymiad pobl Hawäi i adfywio’u hiaith. Roedd hi’n galonogol ac yn wobrwyol gweld yr ymrwymiad ar bob lefel i adfywio iaith a oedd yn wynebu heriau wrth geisio cynnal perthnasedd mewn cyd-destunau ieithyddol cyfoes. Wrth greu’r cyflwyniad poster hwn ces i fy atgoffa o bwysigrwydd diogelu ieithoedd sydd mewn perygl, yn hytrach na gadael iddynt gael eu gyrru i’r cyrion.”
Mae’r prosiectau myfyrwyr hyn yn dangos nad disgyblaeth ddamcaniaethol yn unig yw ieithyddiaeth; Mae ganddi gymwysiadau yn y byd go iawn ar gyfer diogelu hunaniaeth, llunio polisïau cynhwysol, a rhoi llais i gymunedau lleiafrifol.