Fy Mhrofiad CELTA Haf 2025, gan Abbie Campfield

Abbie in Full teacher mode

Abbie wrth ei gwaith fel athrawes dan hyfforddiant!

Fy enw i ydy Abbie ac yn ddiweddar gwnes i gwblhau CELTA (Tystysgrif mewn Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) fel cwrs dwys dros yr haf. 

Dyma rai manylion amdanaf i, cyn i mi ddilyn CELTA: Graddiais i o’m cwrs israddedig BA (Anrhydedd) Iaith Saesneg a TESOL (gyda blwyddyn dramor) yn 2024. Doeddwn i ddim wedi gwneud y CELTA* fel rhan o’m hastudiaethau gan fy mod i am ganolbwyntio ar bethau eraill ar y pryd ac nid oedd gennyf yr hyder. Fodd bynnag, ar ôl graddio, cymerais i flwyddyn bant o’r Brifysgol, gan ganolbwyntio ar fy ngwaith fel cynorthwy-ydd addysgu mewn ysgolion cynradd i’m helpu i gael mwy o brofiad yn yr ystafell ddosbarth. O ganlyniad, roedd gennyf ddealltwriaeth weddol dda o ddamcaniaeth addysgu, ond dim llawer o brofiad ymarferol, a dyna pam roedden ni am, o’r diwedd, ddilyn y CELTA (gan ei bod yn rhoi i chi o leiaf 9 awr o brofiad addysgu ymarferol yn ogystal â gwaith damcaniaethol). Ar ben hynny, rydw i bob amser wedi eisiau dysgu Saesneg i oedolion o wahanol wledydd felly roedd CELTA yn ffordd ddelfrydol o ddeall ai hwn oedd y cwrs gorau i mi ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol.

I gael lle ar CELTA, roedd rhaid cymryd rhan mewn proses gyfweld hynod fanwl a thrylwyr, ac os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud hyn, mae angen i chi baratoi o flaen llaw; a dod ag ysgrifbin, achos anghofiais i fy un i…

Ar ôl y cyfweliad, roeddwn i mor nerfus am ddechrau’r cwrs gan fy mod i’n amau a fyddwn i’n gallu ymdopi â faint o waith roedd angen ei wneud. Roedd y diwrnod cyntaf yn anodd iawn oherwydd gorlwytho gwybyddol;  roedd y swm mawr o wybodaeth a gafodd ei rhannu i ddechrau’n arswydus, felly roedd hi’n anodd i mi gael fy nhraed danof i ddechrau. Fodd bynnag, roedd y cymorth  ges i gan y tiwtoriaid yn anhygoel a diolch iddyn nhw doedd y gwaith byth yn teimlo’n ormodol.

Ces i hefyd y pleser o gwrdd â’m cyd-fyfyrwyr CELTA gwych a dau grŵp o ddysgwyr (dysgwyr cyn canolradd a chanolradd uwch).  Ces i amser gwych gyda’r bobl eraill a oedd yn hyfforddi gyda fi ar CELTA ac roedd gennym gysylltiad cryf erbyn diwedd y 5 wythnos. Gwnaeth fy nghydweithwyr fy helpu gyda’r llwyth gwaith a’r straen, gan roi cyngor ar fy ngwersi a doeddwn i byth yn teimlo fy mod i ar fy mhen fy hun drwy gydol y broses. Gwnaeth profiad CELTA hefyd fy ngalluogi i gwrdd â llawer o ddysgwyr o nifer o wledydd gwahanol (e.e., Fietnam, Tsieina, Wcráin a mwy!). Roedd hi’n bleser cael addysgu’r dysgwyr hyn ac roedd hi’n wych clywed am eu profiadau bywyd yn y gwersi! Yn ystod y 5 wythnos gwnes i ddysgu cynifer o bethau ganddyn nhw ag y gwnaethon nhw eu dysgu gen i!

Yn sicr mae’r cwrs CELTA yn yr haf yn waith caled, gan ei fod yn gwrs 4 mis wedi’i gywasgu i 5 wythnos ac yn aml roeddwn i’n teimlo dan straen o ganlyniad i’r holl waith papur a’r deunyddiau roedd angen i mi eu cwblhau. Ond gwnaeth rhwydwaith cymorth y cwrs fy helpu’n fawr. Roedd y tiwtoriaid yn gefnogol dros ben, gan roi adborth i ni bob cam o’r ffordd. Roedden nhw bob amser ar gael i siarad am waith a’ch teimladau.

Nawr bod cymhwyster CELTA gen i, rwy’n awyddus ac yn barod ar gyfer fy nyfodol, mae fy nyheadau gyrfa’n ffocysu’n llwyr ar addysgu oedolion dramor a gwnes i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o hyn drwy’r cwrs hwn.   Byddaf yn gwneud fy ngradd MA TESOL yn Abertawe ym mis Medi ac rwy’n edrych ymlaen at weld i ble bydd fy nghymwysterau CELTA ac MA yn fy arwain yn fy mywyd! 

I unrhyw un sy’n ystyried dilyn y cwrs CELTA (naill ai fel rhan o’ch astudiaethau neu gwrs haf), byddwn i’n eich argymell i fynd amdani! Bydd yn brofiad gwerthfawr a bythgofiadwy a dyma’r cwrs gorau i’ch paratoi ar gyfer eich dyfodol!

***

*Mae’r CELTA sydd wedi’i wreiddio yn rhan o’ch astudiaethau ychydig yn wahanol – gallwch gyflwyno cais i wneud yr opsiwn hwn fel rhan o’ch gradd a byddwch yn ei ddilyn dros 11 wythnos (fel arfer yn ystod ail flwyddyn eich astudiaethau). Cewch ragor o wybodaeth am y modiwl drwy’r ddolen uchod i’r radd iaith Saesneg a TESOL yn Abertawe!

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *