“What’s Love Got to Do With It?” Postiad San Ffolant

Llun  Nick Fewings ar Unsplash

Yn draddodiadol, mis Chwefror yw ‘tymor y cariadon’. Felly, mae’r neges flog y mis hwn yn cael pip ar y gair ‘cariad’ a’r ffyrdd niferus y defnyddir y term tra hyblyg hwn. Mae’n drist dweud er na fydd yn ateb y cwestiwn ‘beth yw cariad’, nac yn arwain y ffordd i ddarganfod cariad, byddwn ni’n archwilio rhai o’r ffyrdd y caiff y gair ei ddefnyddio (neu ei gamddefnyddio) mewn mynegiannau cyfoes.

Cariad ar hyd yr Oesoedd

Bydd llawer ohonom wedi dod o hyd i ymadroddion neu sloganau sy’n defnyddio cysyniad ‘cariad’ yn brif drosiad. Erbyn hyn, mae’r rhain mor gyffredin fel eu bod yn idiomatig yn Saesneg.Hynny yw, ydych chi erioed wedi defnyddio’r ymadrodd ‘there’s no love lost between us’ er mwyn disgrifio eich perthynas â rhywun? Neu efallai fod eich rhieni neu’ch teidiau wedi disgrifio cwpl y maent wedi eu gweld yn y stryd yn sardonig fel ‘love’s young dream’?

Beth am fynegiannau fel ‘for the love of god!’, er mwyn mynegi rhwystredigaeth? Neu, wrth wrthod ymgysylltu â rhywbeth, ydych chi erioed wedi defnyddio’r ymadrodd ‘I can’t get tickets for love nor money’?  Ceir ‘love is blind’, wrth gwrs, sy’n ddywediad hynafol i’w ddarganfod mewn llenyddiaeth Roeg a Lladin, a ddefnyddiwyd gan Chaucer a Shakespeare hefyd. Nac ydych? Os ydych chi’n hoffi tennis, beth am ddull sgorio tennis: ’15-love’, sy’n derm a ddefnyddid yn gyntaf yn y 18fed ganrif i ddisgrifio ‘dim sgôr’ ac mae’n deillio o’r syniad o chwarae ‘er cariad’ a ‘chwarae am ddim byd’ weithiau, felly?

Llun gan Tony Fischer CC gan 2.0 Flickr

Mae un o sloganau mwyaf enwog yr 20fed ganrif, sef ‘make love not war’, yn ymwneud â diwylliant yr hipis o blaid cariad a gwrthdystiadau’r 1960au yn yr Unol Daleithiau yn erbyn y rhyfel yn Fietnam.Mewn llenyddiaeth hefyd, rydym yn dod o hyd i acsiom enwog arall ynghylch cariad. Ym mhennill olaf Canto 27 o ‘In Memoriam’ gan y bardd llawryfog o oes Fictoria, Alfred, Lord Tennyson, dywed ‘Tis better to have loved and lost/Than never to have loved at all’. Roedd y gerdd yn farwnad ar gyfer ei gyfaill agos Arthur Henry Hallam a fu farw’n  sydyn yn 22 oed, ac fe’i dyfynnir yn aml ynglŷn â chariadon rhamantaidd coll.

Gwireb fwy ymosodol yw’r datganiad bod ‘all’s fair in love and war’; mae’n ymadrodd a ddefnyddid mor gynnar â’r 16eg ganrif, ac rydym ni’n dal i’w glywed mewn diwylliant poblogaidd heddiw – mae hyd yn oed y cylchgrawn Cosmo wedi manteisio arno, gan awgrymu yn ei dudalennau cyngor fod merch yn gallu atal ei chariad rhag chwarae gemau fideo a mynnu ei sylw â’r cyngor bachog hwn: ‘All’s fair in love and war, so flick the trip switch in the fuse box. Without electricity, he’s forced to surrender his console and get back to basics’ (Awst 2005).

Iaith (Ieithoedd) Cariad

Yn fwy na thebyg, mae’r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol o’r ffaith bod gan y Groegiaid sawl gair gwahanol ar gyfer mathau gwahanol o gariad:agape, sy’n golygu math o gariad dwyfol neu ysbrydol;philia sy’n golygu cyfeillgarwch a hoffter;storge sy’n golygu math o gariad teuluol; ac eros, sy’n cyfeirio at gariad neu serch angerddol a rhamantaidd. Yn debyg, mae gan ieithoedd fel Arabeg o leiaf 11 gair ar gyfer cariad y mae pob un ohonynt yn cyfleu cam gwahanol o’r broses cwympo mewn cariad, yn ôl Faraan Sayed, sy’n dweud:

Er enghraifft, mae’r gair ‘hawa’ yn disgrifio atyniad neu awydd cychwynnol yr ysbryd neu’r meddwl tuag at rywun arall. Mae’r term yn tarddu o’r gair gwraidd ‘h-w-a’ – gwynt dros dro sy’n gallu codi a syrthio. Mae ‘alaaqa’, sy’n tarddu o’r gair gwraidd (‘a-l-q) sy’n golygu ‘glynu wrth’, yn disgrifio’r cam nesaf pan fydd y galon yn dechrau glynu wrth yr anwylyd cyn troi’n chwant dall sef ‘ishq’ ac yn gariad hollysol sef ‘shaghaf’. Mae cam olaf cwympo mewn cariad, sef ‘huyum’, yn disgrifio colli rheswm yn llwyr. Yn ddiddorol, mae’r gair mwyaf cyffredin am gariad yn Arabeg, sef ‘hubb’, yn tarddu o’r un gwraidd â’r gair ‘hedyn’ – peth sydd â’r potensial i dyfu’n rhywbeth prydferth. Mae’r gair am galon, ‘qalb’, yn deillio o’r gair gwraidd (q-l-b), sy’n golygu troi rhywbeth drosodd.Er bod y gair yn cyfeirio at y galon gorfforol, mae’r gair gwraidd yn dod yn briodol yn ysbrydol pan fyddwn ni’n meddwl am ein calonnau fel rhywbeth sy’n troi emosiynau, penderfyniadau a barnau yn barhaus. Byddwch yn ofalus i ynganu’r llythyren gyntaf yn gywir gan fod y gair ‘kalb’ yn golygu ‘ci’, ac mae’n sarhaus iawn.

Llun gan Hannah Wright ar Unsplash

Yn Saesneg, gallwn ni ddod o hyd i’r ferf ge-lufian, sy’n golygu ‘caru’ neu ‘edmygu’, neu ei ffurf enwol lufu yn Hen Saesneg sy’n disgrifio ‘hoffter dwfn’ (os nad oeddech yn gwybod hyn, ystyrir bod cyfnod Hen Saesneg yn para o’r 5ed ganrif tan y 12fed ganrif OC). Yn Hen Saesneg, er enghraifft, rydym yn dod o hyd i’r ymadrodd ‘Hé wæs fram eallum mannum lufad’ (sy’n golygu ‘roedd pob dyn yn ei garu’). Etifeddwyd y gair o’r Germaneg (mae Saesneg yn aelod o deulu iaith Gorllewin Germaneg sy’n rhan o deulu mwy o ieithoedd cysylltiedig o’r enw Indo-Ewropeaidd).

Mewn gwirionedd, rydym yn gallu olrhain y gair cariad yr holl ffordd yn ôl i Sansgrit gan fod *leubh yn golygu gofalu a/neu deimlo awydd cryf. Er bod awgrym rhywiol i’r gair ‘cariad’ bob amser, nid tan tua’r 16eg ganrif y cafodd ‘cariad’ ei gysylltu’n llawer mwy amlwg â rhyw, gyda digon o gyfosodiadau sy’n cyfeirio’n llednais at y weithred rywiol o ‘garu â rhywun’ a’i chanlyniadau, megis ‘love brat’ (1805) (y byddem wedi’i alw’n ‘blentyn siawns’ yn yr 20fed ganrif ac sy’n golygu plentyn nad yw ei rieni wedi priodi, ond ni ddefnyddir yr ymadrodd yn aml oherwydd ei fod yn ddiangen yn sgîl newidiadau cymdeithasol.

Trafodaethau Sinematig ar Gariad

Tra bod gwreiddiau etymolegol y gair cariad yn cynnig safbwynt megis edrych yn y drych  ôl, beth am y defnyddiau heddiw? Ydyn ni’n defnyddio’r gair yn fwy neu’n llai nag yr oeddem ni? Sut ydym ni’n ei ddefnyddio? Yr hyn sydd bob amser yn hynod ddiddorol am eiriau yw eu bod yn colli eu caché, neu werth eu defnydd, weithiau; maent yn newid yn semantig, neu weithiau’n darfod.

Un o’r cwestiynau mawr yw a yw geiriau fel cariad wedi colli eu grym mewn byd ôl-fodern o eironi a ffelder (neu a yw hynny’n fyd ar ôl ôl-fodern?) Daeth cwestiwn fel hwn yn dra amlwg yn y 1980au a’r 1990au, wedi’i grynhoi’n daclus gan Umberto Eco yn Reflections on The Name of the Rose (1994) lle mae’n trafod yr hyn sy’n ôl-fodern.

Dywed Eco:

The postmodern reply to the modern consists of recognizing that the past, since it cannot really be destroyed… must be revisited: but with irony, not innocently. I think of the postmodern attitude as that of a man who loves a very cultivated woman and knows he cannot say to her, “I love you madly,’’ because he knows that she knows (and that she knows that he knows) that these words have already been written by Barbara Cartland. Still, there is a solution. Gall ddweud, “As Barbara Cartland would put it, I love you madly.” At this point, having avoided false innocence, having said clearly that it is no longer possible to speak innocently, he will nevertheless have said what he wanted to say to the woman: that he loves her, but loves her in an age of lost innocence. (tt. 67-68)

Roedd diwylliant poblogaidd yn gyflym i sylwi ar natur amhosibl iaith i bob golwg, a pha mor hurt yr oedd y gair cariad yn ymddangos yn un o lwyddiannau sinematig mwyaf y 1990au. Mae ffilm Mike Newell Four Weddings and a Funeral (1994) yn cynnwys y cymeriad Charles, sy’n hercian ac yn mwngial, yn ceisio mynegi ei deimladau at ei ddarpar gariad Carrie (menyw ddiwylliedig iawn i bob golwg – gweler Eco uchod) tua diwedd y ffilm. Yn unol â rhagdybiaeth ôl-foderniaeth bod iaith bob amser yn ein methu neu ei bod yn annigonol rywsut, mae Charles yn darganfod nad yw’n gallu geirio’r hyn y mae’n ei deimlo yn yr iaith a ddisgwylir (neu mae’n dra ymwybodol o sinigiaeth ôl-fodern y 1990au), ac yn ystod un o’r enghreifftiau mwyaf echrydus a welwyd erioed mewn ffilmiau Prydeinig, dywed Charles wrth Carrie:

O’r diwedd mae Charles yn dweud wrth Carrie ei fod yn ei charu…

“Sorry.. look. Sorry, sorry. I just, ehm, well, this is a really stupid question and… particularly in view of our recent shopping excursion, but I just wondered, by any chance, ehm, eh, I mean obviously not because I’m a git who’s only slept with 9 people, but-but I-I just wondered… ehh. I really feel, ehh, in short, to recap it slightly in a clearer version, eh, the words of David Cassidy in fact, um, while he was still with the Partridge family, eh, “I think I love you,” and eh, I-I just wondered whether by any chance you wouldn’t like to… Eh… Eh… No, no, no of course not… I’m an idiot, he’s not… Excellent, excellent, fantastic, eh, I was gonna say lovely to see you, sorry to disturb… Better get on.”

Ond nid oedd hyn yn newydd; nid oedd gan y 1990au y monopoli ar y teimlad nad oedd y gair love a’i deimladau cysylltiedig yn ddigon neu roedd yn gysyniad rhy naïf i gael ei ddefnyddio â dilysrwydd. Yn debyg i hynny, ym marn Woody Allen mewn un o ffilmiau ‘rhamantaidd nerfus’ mwyaf enwog y cyfnod, sef Annie Hall (1977), os nad yw defnyddio’r gair cariad yn dirdynnol, mae ef o leiaf yn annigonol ar gyfer ei anghenion ef. Wrth sefyll yng ngolau’r gwyll ar bwys yr afon yn Efrog Newydd, mae Alvy ac Annie’n ceisio cadarnhau eu cariad at ei gilydd. Pan ofynnodd Annie os yw’n ei charu, mae Alvy’n ymateb: ‘Yeah, of course but love is too weak a word for the way I feel about you. I lurve you, I loave you, I luff you – with two fs. I have to invent words…’ 

Mae Alvy ac Annie yn datgan eu ‘luff’ neu ‘lurve’ at ei gilydd…

Yn achos Alvy, mae’n debyg bod cariad yn air rhy fach ac efallai nad yw’n addas am gymhlethdod teimlad fel hwnnw. Yn lle hynny, yn ddigrif, mae ef yn ceisio creu gair newydd neu addasu’r gair presennol er mwyn mynegi ei deimladau. Mae’r ffilm yn ymdrin â phroblem cariad heterorywiol yn y 1970au (yng nghyd-destun ar ôl chwyldro rhywiol y 60au ac ail don ffeministiaeth); hynny yw, mae syniadau traddodiadol ynghylch caru a chanlyn wedi chwalu ers dyfodiad newidiadau diwylliannol fel hynny.

Mae Allen yn datrys y penbleth hwn ynghylch sut i fynegi cariad drwy gyfrwng sinema, sy’n dibynnu ar fath gwahanol o iaith (gweledol a dieiriau). Mae ei deimladau’n gorlifo yn un o olygfeydd mwyaf greddfol y ffilm yn nhirwedd ddinesig Efrog Newydd gyda’i golygfeydd o fflatiau uchel iawn, pontydd a pharciau, a’i strydoedd swnllyd, i’w defnydd arloesol o dechnegau gweledol (yn yr adeg honno). Mae un o’r technegau dyfeisgar hyn yn cynnwys defnyddio is-deitlau sy’n gwrth-ddweud deialog pob un o’r cymeriadau (yr ydym ni’n ei glywed ac y maent hwy’n ei glywed) mewn math o ymson mewnol ynghylch cyflwr eu teimladau go-iawn (nerfusrwydd, awydd a hunanymwybyddiaeth). Felly, mae’r gynulleidfa’n gweld yr hyn y maent yn ei feddwl, er na chaiff y meddyliau hyn eu cyfathrebu rhwng ei gilydd. Mae’r olygfa’n dangos yn eglur pa mor anodd yw cyfleu syniadau a theimladau cymhleth, drwy iaith, yn enwedig rhai personol sydd yn y gair bach hwnnw â chwe llythyren:cariad.

Cyfeirnodau

Allen, W. [Cyf.] (1977) Annie Hall. [DVD] Yr UD: United Artists.

Eco, U. (1994) Reflections on The Name of the Rose. Llundain:Minerva.

‘Love’ (a’i wahanol ddefnyddiau/idiomau), o’r Oxford English Dictionary.

Newell, M. [Cyf.] (1994) Four Weddings and a Funeral. [DVD] Rank Film Distributors: y DU.

Sayed, F. (2015) A Few Surprising Facts about the Arabic Language. Yn Voices Magazine. O wefan y Cyngor Prydeinig, yma.