PhD yn ystod pandemig, gan Theo Mills

Un o fy nghydweithwyr yn edrych ar ôl y llyfrgell!

Pan roeddwn i’n gwneud cais ar gyfer fy PhD a bu pawb o fy nghwmpas i’n cynnig cyngor, roedd gan y rhan fwyaf o bobl lawer o resymau pam na ddylwn i wneud doethuriaeth … ond nid oedd neb erioed wedi sôn am bandemig byd-eang. Nid oedd hyn wedi’i grybwyll erioed yn y gwaith papur a dim unwaith yn y cyfweliadau. Nid oedd erioed wedi croesi ein meddwl ni hyd yn oed. A allai rhywun alw’r sefyllfa hon yn un “heb gynsail”?

Felly, sut brofiad yw gwneud PhD yn ystod pandemig y coronafeirws? Pe byddech chi’n gofyn i’r rhan fwyaf o fy ffrindiau a fy nheulu ddisgrifio’r hyn sydd wedi newid o ran fy mywyd, fyddai ganddyn nhw’r un syniad gan yr ymddengys fy mod i wedi bod yn parhau â fy nhrefn arferol, ond y gwir amdani yw bod pethau wedi newid yn ddramatig yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf yn fy mywyd i ac ym mywydau’r gymuned ymchwil rwy’n perthyn iddi. Mae rhai pethau wedi newid er gwell ond mae newidiadau eraill wedi bod nad ydyn nhw i’w croesawu cymaint. Rwy’n defnyddio’r blogiad hwn i egluro sut brofiad yw ef wedi bod, ac wrth wneud hynny rwy’n gobeithio y bydd rhai ohonoch chi’n gallu uniaethu â’m trafferthion!

Gweithio gartref – neu fyw yn y gwaith?

Y prif beth sydd wedi newid i lawer o bobl yn y byd academaidd yw’r ffordd o fyw newydd sbon danlli hon, sef gweithio gartref. Roeddwn i’n arfer gwneud tua thraean o fy ngwaith gartref gan dreulio’r ddwy ran o dair arall yn fy swyddfa yn y brifysgol. Ar ddechrau’r pandemig, roedd yn rhaid imi weithio ar fwrdd fy nghegin ochr yn ochr â dau gyd-letywr arall a oedd yn gweithio gartref hefyd. Yn y pen draw, llwyddon ni i newid un o’r ystafelloedd yn ein tŷ yn swyddfa, ac er fy mod i’n parhau i freuddwydio am y brifysgol gyda’i hystafell astudio dawel, desgiau llydan a sawl argraffydd, mae wedi bod yn welliant enfawr o’i chymharu â’r gegin.

Nid yw gweithio gartref wedi bod yn ddrwg i gyd mewn gwirionedd: mae’n golygu taith fyrrach o lawer i’r gwaith, rwy’n arbed arian o ran prynu cinio a/neu goffi’n achlysurol ac rwy’n dal i lwyddo i wneud gwaith. Ond rydyn ni i gyd yn gwybod bod anfanteision wedi bod ynghlwm wrth hyn hefyd. Ceir llawer o sŵn, mae’n haws i’ch sylw gael ei dynnu oddi wrth eich gwaith, a does dim llyfrgell. Rwy’n colli gwibio heibio i goridor yr Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol i fynnu sgwrs â phobl, cynnal cyfarfodydd goruchwylio wyneb yn wyneb neu’n syml iawn, bachu coffi gyda chydweithiwr arall sy’n astudio PhD.

Fodd bynnag, er fy mod i’n colli fy lle yn fy swyddfa ar y campws, yn y bôn rwy’n hoff o fod gartref ac rwy’n credu y bydda i’n parhau i weithio gartref ychydig yn fwy nag yr oeddwn i’n arfer ei wneud oherwydd fy mod i wedi arfer ag ef erbyn hyn ac yn gwerthfawrogi’r hyblygrwydd mae’n ei roi imi. Os ydych chi, fel yn fy achos innau, yn meddwl y byddwch chi’n gweithio gartref hyd y gellir rhagweld, fy nghyngor i yw creu lle da i astudio gan geisio gwahanu’r “gwaith” oddi wrth y “cartref” gymaint â phosibl. Gan fod lleoedd astudio a rennir i fod i agor ym mis Medi, dylen ni allu ailgydio yn yr hyn sy’n normal, gobeithio.

Colli’r cysylltiad â phobl 

Mae angen coffi arna i….

Mae dal i fyny dros goffi, cyfarfodydd, a sgyrsiau cyflym yn y coridor i gyd yn ymddangos fel pethau yn y gorffennol. Mae pwysigrwydd sefydlu rhwydweithiau ymchwil a gwneud cysylltiadau yn cael ei ddrilio i’n pennau fel myfyrwyr PhD, ond sut rydyn ni i fod i wneud hynny o bell? Wel, mae yna ychydig o ffyrdd o wneud hyn. Cymerwch ran yn eich cyfarfodydd adrannol neu gofynnwch a oes rhywbeth wedi’i drefnu ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig. Er enghraifft, mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn cynnal sesiynau ‘Dydd Llun ApIeith’ pan fydd cydweithwyr yn yr Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol yn dod ynghyd i siarad a dal i fyny o ran y newyddion diweddaraf. Rai wythnosau byddwn ni’n cynnal sgyrsiau, er enghraifft trafod dod o hyd i waith yn y byd academaidd, ond mewn sesiynau eraill byddwn ni’n chwarae gemau iaith ac yn dal i fyny. Rwy wedi cynnal rhai sesiynau fy hun hyd yn oed, gan gasglu adborth gan fyfyrwyr ar y ffordd y mae’r brifysgol wedi ymdopi ag argyfwng y coronafeirws a chynnal sgyrsiau Cwestiynau Cyffredin i grwpiau bach o israddedigion. Mae cymryd rhan a datblygu sgiliau newydd ar hyd y ffordd wedi bod yn llawer o hwyl. Mae cynadleddau ar-lein yn ffordd arall o gymryd rhan o bell gan fod llawer o ddigwyddiadau sydd eisoes wedi’u hamserlennu yn symud ar-lein. Mynychais i gynhadledd CogSci 2020 a Chynhadledd Ieithyddiaeth Wybyddol y DU 2020, y ddwy o gysur fy nghartref fy hun felly! Hefyd, offer defnyddiol yw Twitter a llwyfannau eraill y cyfryngau cymdeithasol. Mae Twitter bob amser yn lle da i gwrdd â phobl o’r un anian â chi gan ddefnyddio hashnodau megis #AcademicTwitter neu #AcademicChatter.

A pheidiwch ag anghofio meddwl am yr agwedd gymdeithasol sy’n rhan o feithrin cysylltiadau â’ch cyd-fyfyrwyr, oherwydd pwy arall fydd yn gwrando arnoch chi’n rhefru ac yn rhuo ac yn deall yr hyn sydd gennych chi mewn gwirionedd? Rydyn ni i gyd yn yr un cwch, felly cadwch mewn cysylltiad â’r bobl sy’n astudio PhD ar yr un pryd â chi. Os yw’ch rhaglen yn un fach, fel yn fy achos innau, rhowch gynnig ar leoedd eraill megis Reddit  (/r/GradSchool) neu Discord (e.e., GradBuddies). Fforwm yw’r un cyntaf ac mae’r ail yn fwy o grŵp sgyrsio, ond mae’r ddau ohonyn nhw’n cynnig ffordd ddienw o siarad â myfyrwyr eraill. Rwy’n addo bod rhywun bob amser a all eich helpu chi gyda’r hyn rydych chi’n ymdopi ag ef os ydych chi’n gwybod ble i chwilio amdano.

Hyblygrwydd yw’r allwedd

Gwnewch yr hyn rydych chi’n ei garu, carwch yr hyn rydych chi’n ei wneud!

Rwy’n ffodus fy mod i yn fy mlwyddyn gyntaf ac nid yng nghanol fy arbrofion, ond mae COVID-19 wedi llwyddo i ddifetha fy nghynlluniau i fynd i mewn i ysgolion a chasglu data ym mis Medi. Mae’r sefyllfa hon wedi gorfodi llawer ohonon ni i ailystyried ein methodolegau gan lunio ‘Cynllun B’, sef testun un seminar a gafodd ei gynnal gan Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru’r ESRC. Ymhlith y cwestiynau y byddai’n rhaid ichi ofyn i’ch hun hwyrach yw a allwch chi symud eich casgliad data ar-lein? A allwch chi ganolbwyntio ar rannau gwahanol o’ch PhD, ymestyn un arbrawf neu newid rhai paramedrau fymryn? Gofynnwch i’ch adran neu’ch corff cyllido (er enghraifft, rwy’n cael fy ariannu gan yr ESRC) am help a hyfforddiant ynglŷn â hyn, megis gweminarau neu weithdai. Mae’n bryd addasu a bod yn hyblyg, sef sgiliau y gall pawb eu datblygu beth bynnag.

Byddwch yn falch ohonoch chi’ch hun

Os ydych chi wedi gwneud cynnydd o ran eich PhD yn ystod y cynnwrf byd-eang hwn, waeth pa mor fach yw hyn, yna mae’n bryd ichi guro eich hun ar y cefn. Gadewch inni fod yn onest, mae pob un ohonon ni wedi gorfod gwneud newidiadau mawr, addasu ein ffyrdd o fyw a’n disgwyliadau yn llwyr. Nid yw’n hawdd cydbwyso’r cartref a byd gwaith ac yna bopeth arall. Da chi, curwch eich hun ar y cefn – rydych chi’n ei haeddu!

@theoaamills 

Ar hyn o bryd mae Theo Mills yn astudio PhD mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol ym Mhrifysgol Abertawe, gan ymchwilio i ddulliau o ysgrifennu iaith gyntaf yn seiliedig ar gorpysau.