Beth sydd ar y gweill eleni ar gyfer myfyrwyr Ieithyddiaeth Gymhwysol?

Yn ystod 2020 roedd hi’n anodd i’r un dim osgoi cysgod COVID-19 ac nid yw bywyd prifysgol wedi bod yn eithriad yn hynny o beth. Mae miloedd o fyfyrwyr ledled y wlad wedi sôn am eu dryswch a’u pryder ynghylch dychwelyd i’r brifysgol, mae llawer wedi cael eu gorfodi i hunanynysu yn eu neuaddau preswyl ac ymddengys fod pethau’n newid yn gyflym, yn wythnosol weithiau hyd yn oed. Hwyrach mai dweud go gynnil yw dweud bod myfyrwyr yn poeni.

Heb os nac oni bai, mae bywyd prifysgol yn gyfnod o bontio mawr ym mywyd rhywun. Gall fod yn gyfnod cyffrous ond eto’n llethol wrth i fyfyrwyr reoli pwysau academaidd a chymdeithasol fel ei gilydd, a chan fod COVID-19 a chyfyngiadau’r llywodraeth bellach wedi newid y brifysgol, rhaid gofyn y cwestiwn – Sut mae’r myfyrwyr yn ymdopi? Rydyn ni’n wynebu rhywbeth unigryw o’i gymharu â’r cenedlaethau o fyfyrwyr a ddaeth o’n blaenau. Ond does gennym ni ddim dewis ond wynebu’r her. Ar hyn o bryd, mae’n bwysig creu ymdeimlad o gymuned, ac os yw’r ffyrdd arferol o ddod o hyd i hyn yn cael eu gohirio, mae’n rhaid inni greu’n ffyrdd ein hunain.

Felly, beth sydd ar y gweill eleni ar gyfer myfyrwyr Ieithyddiaeth Gymhwysol yn Abertawe?

Ar ôl blwyddyn o fod yn segur, mae rhai ohonom ni fyfyrwyr Ieithyddiaeth Gymhwysol wedi bod yn gweithio i ailgydio yng nghymdeithas myfyrwyr yr adran. Mae croeso mawr i unrhyw un ymuno â ni, awgrymu syniadau neu estyn help llaw.

Anfonwch e-bost aton ni i appliedlinguistics@swansea-societies.co.uk os ydych chi eisiau cymryd rhan. Gallwch chi ein dilyn ni ar Facebook, https://www.facebook.com/Swansea-Applied-Linguistics-Society-104424181411762 neu ar Twitter @AppliedSu. 

Am y tro, mynnwch gip ar ein harlwy ar gyfer eleni!

Materion Academaidd: 

Oes gennych chi ddarn cyffrous o waith yr hoffech chi’i rannu? Neu ai cael y cyfle i ymarfer eich sgiliau cyflwyno sy’n mynd â’ch bryd? Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwybod rhagor am y gwaith sy’n digwydd ar draws yr adran? Yna ymunwch â ni ar gyfer Seminarau’r Gymdeithas Ieithyddiaeth Gymhwysol!

Unwaith y mis, byddwn ni’n cynnal sgyrsiau o ledled yr adran am bopeth sy’n ymdrin ag ieithyddiaeth: awgrymiadau o ran astudio, cyngor am yrfaoedd, datblygiadau ymchwil – tyfu y mae’r rhestr. Bydd sesiwn rwydweithio ar ôl pob sgwrs a fydd yn rhoi’r cyfle ichi gwrdd â phobl ledled yr adran.

Bydd y seminarau hyn dan arweiniad myfyrwyr yn ategu’r sgyrsiau adrannol. Yn hynny o beth, rydyn ni’n awyddus i glywed gennych chi! Pa bynciau yr hoffech chi glywed amdanyn nhw? Hoffech chi gymryd rhan drwy draddodi sgwrs? Rhowch wybod inni drwy anfon e-bost aton ni i appliedlinguistics@swansea-societies.co.uk.

Keighley Perkins, Cynrychiolydd Academaidd

Materion Cymdeithasol:

Oherwydd y sefyllfa bresennol o ran Covid-19, bydd ochr gymdeithasol cymdeithasau eleni yn wahanol i’r hyn y gallai pobl fod wedi arfer ag ef. Rydyn ni’n ceisio meddwl am ffyrdd gwahanol y gallwn ni ddod â’n cymuned fach at ei gilydd, ond wrth gwrs mae’n rhaid inni gofio lleoliad aelodau’r gymdeithas ochr yn ochr â’r rheolau cyfredol sydd ar waith.

Rydyn ni’n bwriadu cynnal sesiynau Zoom yn rheolaidd fel y gall pawb gymryd rhan, ond rydyn ni hefyd wedi meddwl am gwrdd yn yr awyr agored – beth am ymuno â ni hwyrach ar draeth Abertawe i gael tân gwersyll – os bydd y tywydd yn caniatáu! Rydyn ni’n croesawu pob math o syniad! Gadewch inni wybod am yr hyn rydych chi eisiau ei wneud.

Courtney Gillingham, Cynrychiolydd Cymdeithasol

Cyfnodolyn y Swansea Linguistics Journal:

Cyhoeddiad blynyddol a grëwyd gan fyfyrwyr Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol Prifysgol Abertawe yw’r Swansea Linguistics Journal a’r myfyrwyr sy’n ei gynnal. Bellach mae wedi cyrraedd ei drydydd rhifyn ac mae’n ymrwymedig i arddangos gwaith gorau’r myfyrwyr. Rhifyn eleni oedd yr hiraf hyd yn hyn a bu pobl mor bell i ffwrdd â Siapan a Giana Ffrengig yn ei ddarllen!

Eleni roedd y cyfnodolyn yn cynnwys ei erthygl gyntaf o faes cyfieithu a chyfieithu ar y pryd Tsieinëeg, sef ymchwiliad beirniadol i isdeitlau ffilm glasurol Disney, sef The Lion King. Roedd  awdur yr erthygl, Bihan Ma, wedi darganfod bod gwallau fel arfer yn codi pan fydd yn rhaid i’r cyfieithydd ymdrin â nodweddion tafodieithol neu briod-ddulliau y mae’n rhaid eu hail-lunio i gyd-fynd â’r Tsieinëeg. Datblygiad newydd eleni hefyd oedd dau draethawd a ysgrifennwyd yn wreiddiol ar gyfer modiwl y flwyddyn gyntaf, sef Ieithyddiaeth Gymhwysol, sef Applied Linguistics: Uncovering Language Myths and Linguistic Truths. Dadleuodd Molly Chapman yn erbyn y myth na all oedolion ddysgu dod yn rhugl mewn ail iaith, a thestun ymchwil Josh Richardson oedd a oes llawer o eiriau am eira yn ieithoedd Esgimo mewn gwirionedd. Hefyd cafwyd erthyglau o feysydd mor amrywiol â dadansoddi disgwrs, seicoieithyddiaeth, addysgu a dysgu Saesneg a chyfathrebu ym maes gofal iechyd, gan adlewyrchu’r ystod eang o bynciau sy’n cael eu hastudio yn Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol Prifysgol Abertawe.

Yn sgîl y llwyddiant hwn, rydyn ni bellach yn edrych ymlaen at rifyn y flwyddyn nesaf o’r Swansea Linguistics Journal. Maes o law, byddwn ni’n dechrau tynnu ynghyd gyflwyniadau gan fyfyrwyr ym mhob grŵp blwyddyn israddedig yn ogystal â chan fyfyrwyr ôl-raddedig yr adran. Bydd unrhyw aseiniad sydd wedi derbyn gradd o 70 neu’n uwch yn cael ei ystyried i’w gyhoeddi yn y cyfnodolyn, felly os hoffech chi weld eich gwaith yn ymddangos, anfonwch e-bost aton ni i lingjournalswansea@gmail.com. Byddwn ni hefyd eisiau cyflogi golygyddion a phrawf-ddarllenwyr i helpu i baratoi ar gyfer y rhifyn nesaf, felly cadwch eich llygaid ar agor am gyhoeddiadau pellach os oes gennych chi ddiddordeb! Mae’r tîm golygyddol yn edrych ymlaen at flwyddyn wych arall yn hanes y Swansea Linguistics Journal, ac rydyn ni ar bigau’r drain eisiau darllen rhagor o erthyglau ardderchog gan fyfyrwyr Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol Abertawe.

Yn y cyfamser, gallwch chi ymweld â’n gwefan, sef  

https://swansealinguisticsjournal.wordpress.com/, lle byddwch chi’n dod o hyd i dri rhifyn y cyfnodolyn yn ogystal â chyfweliadau unigryw gydag aelodau staff yr adran. Gallwch chi hefyd ein dilyn ni ar Twitter @SwanseaApplied i gael y newyddion diweddaraf am y cyfnodolyn.

Milo Coffey a Rosie Webber, Cyd-olygyddion y Cyfnodolyn Ieithyddiaeth Gymhwysol