Astudio ym Mhrifysgol Abertawe: Beth yw hi sy’n peri inni eisiau aros? Gan Beatrice Massa

Llun o’r Diwrnod Graddio: Beatrice Massa

Un o Lysgenhadon Myfyrwyr Prifysgol Abertawe oeddwn i yn ystod y tair blynedd diwethaf. Pe baech chi wedi mynychu un o’r Diwrnodau Agored, mae’n debyg imi gwrdd â chi yno. Os ydych chi newydd ddechrau chwilio am wybodaeth am Brifysgol Abertawe a newydd ddod ar draws y blog hwn, dyma’r tro cyntaf inni gwrdd felly. Neu hwyrach eich bod wedi bod yn byw yn Abertawe ers cwpl o flynyddoedd ac felly mae’n bur debyg ein bod wedi digwydd cyfarfod â’n gilydd rywle ar y campws. Pa ffordd bynnag, sut mae’r hwyl, Beatrice ydw i, ac yn ddiweddar cwblheuais i fy astudiaethau ym Mhrifysgol Abertawe.

Gan weithio fel Llysgennad Myfyrwyr, treuliais i lawer o amser yn dweud wrth ddarpar fyfyrwyr a’u rhieni pam bod astudio yn Abertawe yn beth mor hyfryd, ac yn enwedig pam mae’r graddau a gynigir gan yr Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol mor wych. Peidiwch â fy nghamddeall i, roeddwn i’n golygu pob gair a ddywedais i (afraid dweud, celwyddgi noeth ydw i), ond ar ôl imi gyflwyno fy nhraethawd hir ychydig  wythnosau yn ôl ac ar ôl imi ganu’n iach yn swyddogol i fy mywyd fel myfyrwraig, newidiodd rhywbeth ynddo i gan beri imi sylweddoli bod astudio yn Abertawe yn llawer mwy na’r hyn yr roeddwn i’n gallu ei ddisgrifio yn ystod Diwrnod Agored. Felly, gan mai ysgrifennu yw fy nghryfder fel arfer, meddwl yr roeddwn i y byddwn i’n ysgrifennu am yr hyn sy’n arbennig am y brifysgol a’r ddinas ac sy’n peri i lawer o bobl eisiau aros yn Abertawe ar ôl iddyn nhw raddio. Dyna’r bwriad, beth bynnag.

Wrth imi eistedd wrth fy nesg, ar fy mhen fy hun bach yn fy fflat yng Nghopenhagen, un o’r pethau rwy’n eu colli fwyaf yw’r ymdeimlad o gymuned sy’n llifo drwy’r brifysgol ar bob lefel, ni waeth a ydych chi’n sefyll yn y ciw (cyn cyfnod y Coronafeirws) i fynd i’r tŷ bach yn Sin City (sef, clwb nos yn Abertawe) yn beichio wylo, a dyna ryw fyfyrwraig anhysbys yn rhoi hances bapur ichi, neu rydych chi’n cerdded i’r dosbarth ac mae un o’ch darlithwyr o’r flwyddyn gyntaf yn dweud ‘helô’ ac yn gofyn ichi sut mae pethau’n mynd. Yn ystod diwrnod Varsity, does dim ots a ydych chi’n hoffi chwaraeon neu beidio, os ydych chi’n chwarae yn erbyn Prifysgol Caerdydd neu os ydych chi’n sefyll ar hyd yr ystlys yn bloeddio nerth eich llais: rydyn ni i gyd yn “gwaedu’n wyrdd” ac yn ennill (neu’n colli) gyda’n gilydd.

Mae’r ymdeimlad hwn o gymuned yn golygu gofalu am ein gilydd, nid dim ond ymhlith y myfyrwyr ond hefyd ymhlith y myfyrwyr a staff y brifysgol fel ei gilydd. Rwy’n credu o ddifrif mai dyma un o’r agweddau sy’n peri bod Abertawe yn brifysgol anhygoel i astudio ynddi yn ogystal â bod yn lle ofnadwy o anodd ei gadael ar ôl. Fel myfyriwr, mae bod yn ymwybodol eich bod yn cael eich cefnogi bob cam o’r ffordd ac y gallwch chi ofyn am gymorth bob amser yn gwneud cryn dipyn o wahaniaeth. Roedd y ffaith y gallwn i gerdded i mewn i swyddfa fy narlithydd a gofyn am eglurhad ynghylch aseiniad neu gysyniad penodol nid yn unig yn rhoi mwy o hyder imi yn fy mhrosiectau a fy ngwybodaeth, ond roedd hefyd yn ysbarduno sgyrsiau a thrafodaethau a oedd yn fodd imi ddatblygu fy sgiliau dadansoddi beirniadol ac ymddiddori fwy byth yn yr hyn roeddwn i’n ei astudio.

Traethau Abertawe

Mae’r brifysgol hefyd yn cynnig cefnogaeth anacademaidd anhygoel y gallwch chi droi ati bob amser os bydd angen hyn arnoch chi, ni waeth a yw hi’n gysylltiedig â’ch iechyd meddwl a chorfforol, materion arian neu gyngor ynglŷn â’ch gyrfa. Mae’r math hwn o gefnogaeth yn hanfodol, yn enwedig gan mai bywyd prifysgol yw’r profiad cyntaf oddi cartref i lawer o fyfyrwyr. Er ei bod hi’n hawdd gwerthfawrogi’r rhyddid y mae bywyd prifysgol yn ei roi, gall hefyd fod yn hynod  heriol a llethol: mae meddu ar system gymorth wedi’i strwythuro’n dda megis un Prifysgol Abertawe yn ei gwneud hi’n brofiad mwy hylaw y gallwch chi’i oddef yn haws oherwydd eich bod chi’n gwybod bod y gefnogaeth yno os bydd ei hangen arnoch chi, hyd yn oed os na fyddwch chi hwyrach yn ei defnyddio.

Hyd yn oed cyn imi raddio’n faglor, roeddwn i’n gwybod nad oeddwn i’n barod i ymadael ag Abertawe a’r Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol am y tro. Rwy’n falch iawn fy mod wedi aros i astudio gradd meistr oherwydd imi lwyddo, ochr yn ochr â’r dysgu, i feithrin perthnasoedd newydd a hŷn gyda myfyrwyr ac academyddion fel ei gilydd a bydd y rhain yn effeithio ar fy mywyd am byth. Oherwydd mai cwrs bach yw Iaith Saesneg o’i gymharu â Seicoleg neu’r Gyfraith, mae’r ymdeimlad o gymuned yn gryfach hyd yn oed: mae darlithwyr ac athrawon yn ein hadnabod yn ôl ein henw tra bod myfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf, yr ail a’r drydedd flwyddyn yn cael y cyfle i weithio gyda’i gilydd ac i ddod i adnabod ei gilydd yn sgîl y gymdeithas Ieithyddiaeth Gymhwysol a’r Linguistics Journal. Hyd yn oed yn ystod y cyfyngiadau symud, gwnaeth yr adran ymdrech ychwanegol i fod mewn cysylltiad â’i myfyrwyr drwy gynnal cyfarfodydd a sgyrsiau wythnosol.

Am y tro cyntaf ers pedair blynedd, es i ddim yn ôl i Abertawe erbyn diwedd yr haf. Rwy bellach wedi symud i Gopenhagen gyda fy nghariad gan ei fod wedi dechrau gradd meistr yma ac ar hyn o bryd rwy’n chwilio am swydd ym maes cyhoeddi neu farchnata lle gall cyfathrebu rhugl, y gallu i ddatrys problemau a sgiliau dadansoddi beirniadol a ddatblygwyd yn sgîl gradd Iaith Saesneg gael eu rhoi ar waith. Er fy mod i wrth fy modd yn dechrau’r bennod newydd hon yn fy mywyd, rwy eisioes yn gweld eisiau Abertawe. Roeddwn i’n gwybod nad oeddwn i fod i aros yno am byth, mae bywyd yn mynd rhagddo ac yn cymryd sawl tro annisgwyl, ond pan fyddwch chi wedi cael amser mor wych yn astudio’r hyn rydych chi’n angerddol drosto ac mae cynifer o bobl anhygoel a thwymgalon wedi rhannu’r daith gyda chi, bydd ffarwelio bob amser yn anos. Yn bersonol, rwy’n credu bod hyn yn dweud llawer am y math o brifysgol yw Abertawe. A phwy a ŵyr, efallai nad ‘hwyl fawr’ mo hyn. Efallai mai ‘gwela i chi i gyd yn fuan’ yw hi’n hytrach.