
Dr Federica Barbieri
Mae Federica’n addysgu ym meysydd cymdeithaseg iaith, dadansoddi disgwrs ac ieithyddiaeth gorpws. Mae hi’n goruchwylio ymchwil ôl-raddedig ac yn cyfrannu at addysgu rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig. Mae ei gwaith yn aml yn archwilio amrywiad ieithyddol a marcwyr pragmatig mewn testunau llafar ac ysgrifenedig. Frederica yw swyddog arholi’r rhaglen radd israddedig.

Dr Jill Boggs
Mae Jill yn arbenigo mewn adborth ysgrifennu a chywiro ail iaith ac yn addysgu ym meysydd megis dulliau addysgu iaith ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig. Jill yw’r arweinydd pwnc ar gyfer Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth Gymhwysol.

Dr Alexia L. Bowler
Mae Alexia’n addysgu arddulleg, hanes Saesneg, cynllunio a pholisi iaith, a gweithio gydag ymarferwyr. Hi yw tiwtor derbyn y maes pwnc, yn ogystal â’r arweinydd cyflogadwyedd, y trefnydd gweithgareddau allgymorth a’r cydlynydd cyfryngau cymdeithasol (blog, Instagram ac YouTube). Mae ei diddordebau ymchwil mewn arddulleg genre mewn ffilm; iaith, rhywedd a’r cyfryngau; ffeministiaeth(au); gwneuthurwyr ffilmiau benywaidd, ac addasiadau.

Dr Benjamin A. Jones
Mae Ben yn addysgu dadansoddi disgwrs, ieithyddiaeth y cyfryngau a ffonoleg ar gyfer yr adran. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys tafodieitheg a thafodiaith Saesneg Cymreig yn ogystal ag arddulleg a dadansoddi disgwrs. Fe yw cyfarwyddwr rhaglen blwyddyn sylfaen yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu.

Yr Athro Tess Fitzpatrick
Mae Tess yn addysgu ym maes ieithyddiaeth fforensig ac mae’n gweithio ag ymarferwyr ar lefel israddedig, a dulliau ymchwil ar yr MA TESOL. Mae ei phrif ddiddordebau ymchwil mewn caffael a phrofi geirfa ail iaith, prosesu geirfa, ac ymchwil geirfaol mewn cyd-destunau heneiddio, dementia a dewis geirfa mewn gofal meddygol.

Dr Xuehong (Stella) He
Mae Stella’n addysgu modiwlau israddedig ac ôl-raddedig mewn caffael ail iaith, astudiaethau geirfa ac ystadegau. Mae ei phrif ddiddordebau ymchwil yn cynnwys caffael ail iaith dan gyfarwyddyd ac addysgu a dysgu geirfa. Hi yw cyfarwyddwr y rhaglen MA TESOL a chydlynydd academaidd y rhaglen astudio dramor

Yr Athro Nuria Lorenzo-Dus
Mae Nuria’n addysgu ym maes dadansoddi disgwrs, astudiaethau disgwrs â chymorth corpws, amlfoddolrwydd, cyfathrebu digidol, dylanwad a thriniaeth ar-lein a phragmateg a chyfathrebu yn y cyfryngau. Mae ei hymchwil yn archwilio sut caiff iaith ei defnyddio mewn mannau digidol, yn benodol mewn perthynas â diogelwch a chyfathrebu ar-lein. Mae hi’n cydweithio ar brosiectau rhyngddisgyblaethol ac yn cyfrannu at drafodaethau academaidd a chyhoeddus yn ei maes.

Dr Vivienne Rogers
Mae Vivienne yn addysgu ym maes seicoieithyddiaeth a chaffael ail iaith. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar gaffael ail iaith a datblygiad geirfa. Mae ei hymchwil yn aml yn cynnwys dulliau arbrofol a chorpora’r dysgwr. Hi yw’r swyddog ymchwil Ôl-raddedig ar gyfer iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth Gymhwysol.

Dr Cornelia Tschichold
Mae Cornelia’n addysgu ym meysydd gramadeg, caffael iaith gyntaf, dulliau ymchwil, a thechnolegau iaith megis ChatGPT. Mae ei hymchwil ym maes dysgu iaith â chymorth cyfrifiadur. Ar hyn o bryd, hi yw cyfarwyddwr y rhaglen ar gyfer y radd israddedig a hi yw Arweinydd Uniondeb Academaidd yr Ysgol.
I weld proffiliau staff tîm Prifysgol Abertawe, sy’n cynnwys ystorfa o gyhoeddiadau sy’n cael ei diweddaru’n rheolaidd, ewch i wefan y Brifysgol